Llinos bengoch fechan
rhywogaeth o adar / From Wikipedia, the free encyclopedia
Aderyn ac is-ywogaeth o adar yw Llinos bengoch fechan (enw lluosog: llinosiaid pengoch bychain, sy'n enw benywaidd) a adnabyddir hefyd gyda'i enw gwyddonol Acanthis flammea cabaret; yr enw Saesneg arno yw Lesser redpoll. Mae'n perthyn i deulu'r Pincod (Lladin: Fringillidae) sydd yn urdd y Passeriformes.[1] Arferid ei ystyried yn is-rywogaeth o'r Llinos Bengoch Gyffredin (Carduelis flammea), ond mae nifer o awdurdodau yn awr yn ei ystyried yn rhywogaeth ar wahan.[2] Mae'n nythu ar draws rhan helaeth o ogledd a chanolbarth Ewrop, ac mae'n bur gyffredin yn Seland Newydd.
Llinos bengoch fechan Acanthis flammea cabaret | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | Aves |
Urdd: | Passeriformes |
Teulu: | Fringillidae |
Genws: | Acanthis[*] |
Rhywogaeth: | Acanthis cabaret |
Enw deuenwol | |
Acanthis cabaret | |
Dosbarthiad y rhywogaeth |
Aderyn yn perthyn i'r teulu Fringillidae yw'r Llinos Bengoch Leiaf (Carduelis cabaret). O ran maint, mae'n llai na'r Llinos Bengoch Gyffredin, 11.5-12.5 cm o hyd[3] a 20-22.5 cm ar draws yr adenydd,[4] ac mae'n fwy brown. Mae'r talcen coch yn nodweddiadol. Yng Nghymru, y rhywogaeth yma yw'r llinos bengoch gyffredin.[5]
Mae'r llinos bengoch fechan, a dalfyrir yn aml yn A. flammea cabaret, neu'r enw rhywogaeth, i'w ganfod yng nghyfandir Ewrop.