Llanddunwyd
pentref a chymuned ym Mro Morgannwg / From Wikipedia, the free encyclopedia
Pentref a chymuned ym mwrdeistref sirol Bro Morgannwg, Cymru, yw Llanddunwyd (Saesneg: Welsh St Donats). Gorwedd yn y bryniau isel tua 3 milltir i'r gogledd-ddwyrain o dref Y Bont-faen, rhwng Aberthin a Phendeulwyn.
Ffeithiau sydyn Math, Poblogaeth ...
Math | pentref, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 534 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Bro Morgannwg |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 1,201.61 ha |
Cyfesurynnau | 51.475088°N 3.401187°W |
Cod SYG | W04000923 |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Jane Hutt (Llafur) |
AS/au | Alun Cairns (Ceidwadwr) |
Cau
Cysgegrir yr eglwys i Sant Dunwyd. Yn yr Oesoedd Canol roedd yn gapel yn perthyn i eglwys Llanfleiddan. Galwyd y pentref yn Eglwys Llanddunwyd i wahaniaethu rhyngddo â Sain Dunwyd (English St Donats) ar yr arfordir.
Bu Llandunwyd yn un o gadarnleoedd olaf yr iaith Gymraeg yn y Fro, gyda gwasanaethau Cymraeg yn yr eglwys.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Jane Hutt (Llafur)[1] ac yn Senedd y DU gan Alun Cairns (Ceidwadwr).[2]