Liberty City
From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae Liberty City yn ddinas ffuglen, a ysbrydolwyd gan Efrog Newydd, sy'n ymddangos yn y gyfres gêm fideo Grand Theft Auto gan Rockstar Games. Mae'n archipelago sy'n ffurfio dinas fawr yn yr Unol Daleithiau. Ymddangosodd tair fersiwn o Liberty City yn y gyfres. Ymddengys y fersiwn gyntaf o Liberty City ym mhennod gyntaf y gyfres, Grand Theft Auto 1, mae'r ddinas yn gymharol debyg o ran ffurf, ac yn ddaearyddol i Efrog Newydd, ac mae'n cynnwys nifer o ynysoedd.
Mae Liberty city yn lleoliad un o'r ardaloedd yn Grand Theft Auto 1, unig leoliad Grand Theft Auto III, Grand Theft Auto Advance, Grand Theft Auto: Liberty City Stories, Grand Theft Auto IV, The Lost and Damned, Chinatown Wars a The Ballad of Gay Tony ac yn lleoliad ar gyfer un dasg yn Grand Theft Auto: San Andreas.
Ym mhob fersiwn o'r ddinas, dangosir Liberty City fel dinas fawr iawn gyda phoblogaeth o sawl miliwn (4 miliwn yn Grand Theft Auto III, dwywaith hynny yn Grand Theft Auto IV ), gyda seilwaith sy'n cynnwys ffyrdd, isffyrdd a threnau, ac weithiau feysydd awyr. Disgrifir y ddinas fel cartref i lawer o sefydliadau troseddol, gangiau a throseddwyr stryd, ac arweinwyr dinesig llygredig iawn. Mae trais a llofruddiaeth yn effeithio ar heddwch y ddinas yn lled aml.
Liberty City yw'r ddinas fwyaf cyffredin yng nghyfres GTA; o'r 14 gêm sydd wedi cyhoeddi, mae wyth yn cael eu lleoli yn Liberty City ac mae dau arall yn cynnwys y ddinas mewn ychydig o ddigwyddiadau bach.
Mae cyfres Grand Theft Auto yn cael ei rannu i'r hyn a elwir yn fydysawdau, wedi eu henwi ar ôl safon y graffig a defnyddir i'w dylunio[1]. Mae'r gêm wreiddiol Grand Theft Auto ei estyniadau a'i olynydd yn perthyn i'r bydysawd 2d. Mae Grand Theft Auto III a'i olynwyr yn perthyn i'r Bydysawd 3D. Mae Grand Theft Auto IV, ei estyniadau a Grand Theft Auto V yn perthyn i'r bydysawd HD. Mae Liberty City yn bodoli yn y tri bydysawd, ond mae'r gwahaniaethau rhwng y dinasoedd yn y wahanol fydysawdau yn sylweddol.