Larry Sanger
From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae Lawrence Mark Sanger (ganwyd 16 Gorffennaf 1968) yn ddatblygwr prosiectau rhyngrwyd Americanaidd, yn gyd-sylfaenydd Wikipedia, ac yn sefydlydd Citizendium.[1]
Ffeithiau sydyn Ganwyd, Man preswyl ...
Larry Sanger | |
---|---|
Ganwyd | Lawrence Mark Sanger 16 Gorffennaf 1968 Bellevue |
Man preswyl | Columbus |
Dinasyddiaeth | UDA |
Addysg | Doethur mewn Athrawiaeth |
Alma mater | |
Galwedigaeth | athronydd, blogiwr, gwyddonydd cyfrifiadurol, person busnes |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | Wikipedia, Citizendium |
Gwefan | https://larrysanger.org/ |
Cau
Cafodd ei fagu yn Anchorage, Alaska. O oedran cynnar roedd ganddo ddiddordeb mewn athroniaeth. Derbyniodd radd baglor y celfyddydau mewn athroniaeth o Goleg Reed yn 1991 a Doethuriaeth mewn Athroniaeth o Brifysgol y Wladwriaeth, Ohio yn 2000. Mae'r rhan fwyaf o'i waith athronyddol wedi canolbwyntio ar epistemoleg, y theori gwybodaeth.[2]
Mae wedi bod yn rhan o amrywiaeth o brosiectau gwyddoniadurol ar-lein. Gadawodd Wikipedia yn 2002, gan na chredai fod y prosiect yn un crediniol, a bu'n llawdrwm ei feirniadaeth ers hynny.[3]