Klaus Kinski
cyfarwyddwr ffilm a sgriptiwr ffilm a aned yn Sopot yn 1926 / From Wikipedia, the free encyclopedia
Actor Almaenig oedd Klaus Kinski (ganwyd Klaus Günter Karl Nakszynski[1] 18 Hydref 1926 – 23 Tachwedd 1991). Ymddangosodd mewn mwy na 130 o ffilmiau, gan gynnwys pump o ffilmiau'r cyfarwyddwr Werner Herzog: Aguirre, der Zorn Gottes (1972), Nosferatu: Phantom der Nacht (1979), Woyzeck (1979), Fitzcarraldo (1982), a Cobra Verde (1987).
Ffeithiau sydyn Ganwyd, Bu farw ...
Klaus Kinski | |
---|---|
Ganwyd | Klaus Günter Karl Nakszynski 18 Hydref 1926 Sopot |
Bu farw | 23 Tachwedd 1991 o clefyd y galon, trawiad ar y galon Lagunitas-Forest Knolls |
Man preswyl | Berlin, München |
Dinasyddiaeth | yr Almaen |
Galwedigaeth | sgriptiwr, actor ffilm, actor llwyfan, cyfarwyddwr ffilm |
Priod | Minhoï Geneviève Loanic |
Partner | Debora Caprioglio |
Plant | Pola Kinski, Nastassja Kinski, Nikolai Kinski |
Gwobr/au | Commandeur des Arts et des Lettres |
Gwefan | http://www.kinski.de |
Cau
Roedd yn enwog am ei bersonoliaeth wyllt. Mae'n bosib y roedd ganddo sgitsoffrenia.[2]
Mae perthynas tymhestlog Hezog a Kinski bellach wedi dod yn chwedlonol yn y byd ffilm. Roedd cymeriad ymfflamychol Kinksi yn arwain at ddadlau ffyrnig gan arwain at Herzog hyd yn oed bygwth lladd Kinski tra'n ffilmio Aguirre.
Ddwy ddegawd wedi ei farwolaeth cyhuddwyd Kinski gan ei ferch Pola o'i chamdrin yn rhywiol.[3]