Karma
From Wikipedia, the free encyclopedia
Ystyr Karma (Sansgrit: कर्म, Pali: kamma) yw gweithredu, gwaith, neu weithred.[1] I'r un sy'n credu mewn ysbrydolrwydd mae'r term hefyd yn cyfeirio at yr egwyddor ysbrydol o achos ac effaith, a elwir yn aml yn egwyddor karma, lle mae bwriad a gweithredoedd unigolyn (yr achos) yn dylanwadu ar ddyfodol yr unigolyn hwnnw (effaith):[2] mae bwriad a gweithredoedd da yn cyfrannu at karma da ac aileni da, tra bod bwriad gwael a gweithredoedd drwg yn cyfrannu at karma drwg ac aileni gwael.[3][4]
Enghraifft o'r canlynol | cysyniad crefyddol, tudalen wahaniaethu Wikimedia |
---|---|
Yn cynnwys | karma o fewn Hindwaeth, karma o fewn Bwdhaeth, karma o fewn Bwdhaeth Tibetaidd, karma o fewn Jainiaeth |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
I'r credinwyr, mae'r cysyniad o karma wedi'i gysylltu'n agos â'r syniad o aileni mewn llawer o ysgolion crefydd Indiaidd (yn enwedig Hindŵaeth, Bwdhaeth, Jainiaeth a Siciaeth),[5] yn ogystal â Taoaeth.[6] Yn yr ysgolion hyn o feddwl, mae karma yn y presennol yn effeithio ar ddyfodol rhywun, yn ogystal â natur ac ansawdd bywyd yn y dyfodol - eich saṃsāra.[7][8] Mabwysiadwyd y cysyniad hwn hefyd yn niwylliant poblogaidd y Gorllewin, lle gellir ystyried y digwyddiadau sy'n digwydd ar ôl gweithredoedd yr unigolyn yn ganlyniadau naturiol.