Juan Carlos Onetti
From Wikipedia, the free encyclopedia
Nofelydd a llenor straeon byrion o Wrwgwái yn yr iaith Sbaeneg oedd Juan Carlos Onetti (1 Gorffennaf 1909 – 30 Mai 1994). Mae ei ffuglen yn portreadu dirywiad y gymuned drefol, a'i gymeriadau yn byw'n anhapus ac yn ynysig ac yn dianc o'r byd absẃrd drwy ffantasi, angau, a'r meddwl. Roedd yn un o ddatblygwyr realaeth hudol, ac ystyrir ei waith yn pontio'r traddodiad Naturiolaidd a'r dirfodaeth sy'n nodweddiadol o lên America Ladin yn yr 20g. Cafodd ei alw'n "sefydlwr nofel newydd America Ladin" gan Mario Vargas Llosa.[1]
Ffeithiau sydyn Ganwyd, Bu farw ...
Juan Carlos Onetti | |
---|---|
Ganwyd | Juan Carlos Onetti Borges 1 Gorffennaf 1909 Montevideo |
Bu farw | 30 Mai 1994 o trawiad ar y galon Madrid |
Dinasyddiaeth | Wrwgwái, Sbaen |
Galwedigaeth | ysgrifennwr, newyddiadurwr, llyfrgellydd |
Arddull | nofel, stori fer |
Gwobr/au | Gwobr Miguel de Cervantes |
Gwefan | http://onetti.net |
Cau