John Viriamu Jones
gwyddonydd, a phrifathro cyntaf Coleg y Brifysgol yng Nghaerdydd / From Wikipedia, the free encyclopedia
Mab gweinidog yr Annibynwyr (Thomas Jones) oedd John Viriamu Jones (2 Ionawr 1856 - 1 Mehefin 1901) ac roedd yn wyddonydd deallus a galluog. Cafodd ei eni ym Mhentre Poeth, Abertawe.[1][2]
Ffeithiau sydyn Ganwyd, Bu farw ...
John Viriamu Jones | |
---|---|
Ganwyd | 2 Ionawr 1856 Pentre Poeth |
Bu farw | 1 Mehefin 1901 |
Dinasyddiaeth | Cymru, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Alma mater | |
Galwedigaeth | mathemategydd, ffisegydd |
Cyflogwr | |
Gwobr/au | Cymrawd y Gymdeithas Frenhinol |
Cau
Bu ym mhrifysgolion Llundain a Rhydychen, lle lwyddodd i gael gradd dosbarth cyntaf mewn mathemateg a ffiseg. Yn 1881 fe'i gwnaed yn brifathro Coleg Frith, a newidiwyd ei enw'n ddiweddarach i Brifysgol Sheffield. Yn 1883, ac yntau'n dal yn ei ugeiniau, daeth yn brifathro Coleg Prifysgol De Cymru a Sir Fynwy ac yn Ganghellor cyntaf Prifysgol Cymru yn 1895.
Yn 1901 bu farw yng Ngenefa, y Swistir.