Jane Addams
From Wikipedia, the free encyclopedia
Awdures Americanaidd oedd Jane Addams (6 Medi 1860 - 21 Mai 1935) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel newyddiadurwr, athronydd, cymdeithasegydd, a ffeminist. Ystyrir hi fel y person a grisialodd y cysyniad o 'waith cymdeithasol', a bod angen i lywodraeth ofalu am rai pobl o fewn cymdeithas. Sefydlodd "Hull House" yn Chicago, cartref i'r digartref, yr enwocaf, efallai yn yr UDA; ac yn 1920 sefydlodd yr ACLU (American Civil Liberties Union).[1][2][3][4][5]
Jane Addams | |
---|---|
Ganwyd | Laura Jane Addams 6 Medi 1860 Cedarville, Illinois |
Bu farw | 22 Mai 1935 o canser Chicago |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater | |
Galwedigaeth | newyddiadurwr, athronydd, ysgrifennwr, gweithiwr cymdeithasol, ymgyrchydd dros hawliau merched, hunangofiannydd, diwygiwr cymdeithasol, beirniad cymdeithasol, swffragét, ymgyrchydd heddwch, amddiffynnwr hawliau dynol, damcaniaethwr gwleidyddol, cymdeithasegydd |
Mudiad | heddychiaeth, sosialaeth, pleidlais i ferched, hawliau menywod |
Tad | John H. Addams |
Gwobr/au | Gwobr Heddwch Nobel, 'Hall of Fame' Cendlaethol Menywod, Gwobr 'Hall of Fame' Merched Chicago, Hall of Fame Lesbiaid a Hoywon Chicago, Hall of Fame Americanwyr Mawr |
llofnod | |
Yn 1931, hi oedd y fenyw Americanaidd gyntaf i ennill Gwobr Heddwch Nobel. Mae hi'n cael ei chydnabod fwyfwy fel athronydd pragmataidd, ac fel yr "athronydd benywaidd cyhoeddus cyntaf yn hanes yr Unol Daleithiau".[6]
Fe'i ganed yn Cedarville, Illinois a bu farw o ganser yn Hull House; fe'i claddwyd yn Illinois.[7][8][9][10][11][12]
Yn yr "Oes Flaengar" (yr hyn a elwir yn "Progressive Era"), pan nododd llywyddion fel Theodore Roosevelt a Woodrow Wilson eu bod yn ddiwygwyr a gweithredwyr cymdeithasol, Addams oedd un o'r diwygwyr mwyaf blaenllaw. Helpodd America i fynd i'r afael â materion a oedd yn peri pryder i famau, fel anghenion plant, iechyd cyhoeddus lleol, a heddwch y byd. Yn ei thraethawd 'Defnyddio Menywod mewn Llywodraeth y Ddinas', (Utilization of Women in City Government) nododd Addams y cysylltiad rhwng gweithrediadau llywodraeth y wlad a'r aelwyd, gan fynnu fod cysylltiad rhang glanweithdra, carffosiaeth dinesig, addysg plant ayb a rôl y ferch, yn draddodiadol, yn y cartref. Felly, roedd y rhain yn faterion y byddai gan fenywod fwy o wybodaeth amdanynt na dynion, felly roedd menywod angen y bleidlais i leisio'u barn yn y ffordd orau.[13]
Pe bai menywod yn gyfrifol am lanhau eu cymunedau, dywedodd, a'u gwneud yn lleoedd gwell i fyw, yna roedd angen iddynt allu pleidleisio i wneud hynny'n effeithiol. Daeth Addams yn fodel i fenywod y dosbarth canol, a ddechreuodd ddilyn ei syniadau, gan wirfoddolodd i wella eu cymunedau.