Jack the Ripper - Rhestr o bobl sydd wedi eu hamau
From Wikipedia, the free encyclopedia
Jack the Ripper (Siôn y Rhwygwr) yw'r enw a roddir i lofrudd cyfresol anhysbys[1]. Bu'n weithgar yn ystod haf a hydref 1888 yn Whitechapel, ardal o Lundain a oedd yn hysbys yn ei gyfnod am dlodi, gorboblogi a phuteindra.
Y pum ddynes y mae’r mwyafrif o ffynonellau yn gytûn eu bod wedi eu llofruddio gan y Ripper yw
- Mary Ann Nichols - 47 oed (31 Awst)
- Annie Chapman - 42 oed (8 Medi)
- Elizabeth Stride - 44 oed (30 Medi)
- Catharine Eddowes - 46 oed (30 Medi)
- Mary Jane Kelly - tua 40 oed (14 Tachwedd)[2]
Cafodd merched eraill eu llofruddio tua’r un pryd gyda rhai yn honni eu bod yn waith y Ripper ac eraill yn anghytuno.
Mae’r cwestiwn o bwy oedd y llofrudd wedi cael ei dadlau'n frwd ers blynyddoedd. Enwyd dros gant o bobl ar amheuaeth o fod yn Jack. Er bod llawer o ddamcaniaethau wedi cael eu crybwyll, mae arbenigwyr wedi methu dod o hyd i ymgeisydd pendant fel yr un a ddrwgdybir, a phrin fod modd i rai o'r enwau cael eu cymryd o ddifri o gwbl.
Dyma restr (anghyflawn) o rai o'r cyhuddedig.