Jac y do
rhywogaeth o adar / From Wikipedia, the free encyclopedia
Aderyn a rhywogaeth o adar yw Jac y do (sy'n enw gwrywaidd; enw lluosog: jac dos) a adnabyddir hefyd gyda'i enw gwyddonol Coloeus monedula; yr enw Saesneg arno yw Jackdaw. Mae'n perthyn i deulu'r Brain (Lladin: Corvidae) sydd yn urdd y Passeriformes.[1] Dyma aderyn sydd i'w gael yng ngwledydd Prydain, ond nid yng Nghymru.
Jac y do Corvus monedula | |
---|---|
Statws cadwraeth | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | Aves |
Urdd: | Passeriformes |
Teulu: | Corvidae |
Genws: | Coloeus[*] |
Rhywogaeth: | Coloeus monedula |
Enw deuenwol | |
Coloeus monedula | |
Dosbarthiad y rhywogaeth |
Talfyrir yr enw Lladin yn aml yn C. monedula, sef enw'r rhywogaeth.[2]
Gellir adnabod y Jac-y-do yn weddol hawdd. Mae'n un o'r lleiaf o deulu'r brain, 34–39 cm o hyd. Du yw'r rhan fwyaf o'r plu, ond mae'r bochau a'r gwddf yn llwyd golau. Yn wahanol i'r rhan fwyaf o deulu'r brain, mae'r llygaid yn wyn. Fel rheol maent yn casglu at ei gilydd yn heidiau, weithiau gannoedd gyda'i gilydd.
Maent yn hoffi cymysgedd o goed a thir agored, ac fel rheol maent yn bwydo ar lawr gan gymeryd unrhyw bryfed neu anifeiliaid bychain eraill, a hefyd hadau a grawn. Maent yn aml yn nythu ar glogwyni, weithiau nifer fawr gyda'i gilydd, ond adeiledir nythod mewn coed neu hen adeiladau hefyd, ac ambell dro mewn corn simddai. Dodwir 4-5 o wyau.
Mae'r Jac-y-do yn aderyn cyffredin ac adnabyddus yng Nghymru.