Hiwgenotiaid
Protestaniaid Ffrengig / From Wikipedia, the free encyclopedia
Roedd yr Hiwgenotiaid (Ffrangeg: Huguenots) yn aelodau o grefydd Ffrengig Protestannaidd oedd yn drwm o dan ddylanwad y diwynydd John Calvin a ddaeth yn boblogaidd yn yr 16g. Dyma oedd y term boblogaidd ar ddilynwyr Eglwys Ddiwygiedig Ffrainc.
Enghraifft o'r canlynol | Grŵp ethnogrefyddol |
---|---|
Math | Ffrancod |
Crefydd | Calfiniaeth |
Gwlad | Teyrnas Ffrainc |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Roedd eu gwreiddiau yn athroniaeth Brotestanaidd Martin Luther ac yna Calvin. Ysytirir bod hyd at 10% (2 filiwn) o boblogaeth Ffrainc yn Hiwgonotiaid hyd at Cyflafan Sant Bartholomew yn 1572. Roeddynt yn trigo gan mwyaf yn rhannau deheuol a gorllewinol Ffrainc. Wrth i Hiwgenotiaid arddel eu dylanwad a ffydd yn fwy agored tyfodd atgasedd iddynt gan y Catholigion. Cafwyd cyfres o wrthdaro a rhyfeloedd crefyddol i'w dilyn, sef Rhyfeloedd Crefydd Ffrainc, o 1562 i 1598. Arweinwiyd yr Hiwgenotiaid gan Jeanne o Albret, ac yna ei mab, Harri o Nafar (Navarre), a ddaeth maes o law yn Frenin Harri IV o Ffrainc (newidiodd ei grefydd i Gatholigiaeth er mwyn dod yn Frenin). Daeth y rhyfeloedd i ben gyda Edict Nantes ym mis Ebrill 1598 gan Harri IV, brenin Ffrainc, pan roddwyd ymreolaeth i'r Hiwgenotiaid ym maes crefydd, gwleidyddiaeth, a milwrol.
Serch hynny, bu gwrthryfeliadau gan yr Huguenot yn yr 1620au yn ysgogi diddymu eu breintiau gwleidyddol a milwrol. Cadwyd eu hawliau crefyddol o dan Edict of Nantes hyd nes y teyrnasiad Louis XIV. Cynyddwyd yr erledigaeth ar Brotestaniaeth yn raddol nes iddo gyhoeddi y Edict Fontainebleau (1685), gan ddod i ben unrhyw gydnabyddiaeth gyfreithiol o Brotestaniaeth yn Ffrainc a gorfodi'r Hiwgenotiaid naill ai i droi'n Gatholigion neu ffoi. Honnodd Louis XIV i boblogaeth Hiwgonotiaid Ffrainc gwympo o dros 800,000 o unigolion i 1,000 neu 1,500 o unigolion; goramcangyfrif wrth reswm, ond bu cwymp enfawr o frawychus. Serch hynny, roedd lleiafrif bychan o Huguenots yn parhau ac yn wynebu erledigaeth barhaus o dan Louis VX. Erbyn marwolaeth Louis XV ym 1774, cafodd Calfiniaeth Ffrengig ei chwalu'n llwyr. Daeth yr erledigaeth ar Brotestaniaid i ben yn swyddogol gydag Edict Versailles, Llofnodwyd gan Louis XVI yn 1787. Ddwy flynedd yn ddiweddarach, gyda'r Datganiad o Hawliau Dyn a Dinesyddiaeth 1789, enillodd Protestaniaid Hawliau cyfartal i ddinasyddion.