Hanesyddiaeth Cymru
From Wikipedia, the free encyclopedia
Methodoleg astudiaeth hanes Cymru yw hanesyddiaeth Cymru sy'n cynnwys y ffynonellau, dulliau beirniadol, a dehongliadau a ddefnyddir gan hanesyddion i astudio hanes y wlad. Prin yw'r ymchwil a wneir yn y maes hwn hyd yn hyn.[1]
Yn gyffredinol mae astudiaethau o hanes Cymru yn talu cryn sylw at iaith, cenedlaetholdeb, a dosbarth a llafur, gan ganolbwyntio ar Gymreictod a hunaniaethau cysylltiedig.[2] Mae hanes crefyddol y wlad, yn enwedig esblygiad Cristnogaeth, hefyd yn agwedd amlwg.
Yn ddiweddar mae rhai hanesyddion wedi astudio hanes Cymru trwy trwy safbwynt ôl-drefedigaethol.[3]