Gweledydd Brahan
Dyn hysbys o'r Alban / From Wikipedia, the free encyclopedia
Roedd Gweledydd Brahan, (Gaeleg: Coinneach Odhar Fiosaiche (y gweledydd glas proffwydol)), neu Kenneth Mackenzie, yn ddyn hysbys a oedd yn gallu rhagfynegi’r dyfodol ac yn byw yn yr Alban yn y 17g[1]. Yr awdur cyntaf i grybwyll hanes y dyn hysbys mewn llyfr oedd y Cymro Thomas Pennant yn ei lyfr A Tour in Scotland [2]
Mae rhai yn honni bod nifer o broffwydoliaethau Gweledydd Brahan yn ffrwyth dychymyg y llenor gwerin Alexander MacKenzie, y dyn a fu’n gyfrifol am eu casglu gan fod rhai o’r hanesion a rhagfynegodd wedi digwydd ymhell cyn iddynt gael eu cyhoeddi mewn llyfr. Mae eraill yn cwestiynu os oedd y gweledydd wedi bodoli o gwbl[3][4].