Gouel Breizh
Gŵyl genedlaethol Llydaw wedi ei hysbrydoli gan wyliau Dydd Gŵyl Dewi a Dydd Gŵyl San Badrig / From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae Gouel Breizh (er bod trafodaeth ai Gouel Vreizh, gyda'r treiglad sy'n gywirach [1]) gelwir hefyd yn Gouel Erwan (Ffrangeg: Fête de la Bretagne, Fest Sain-Yves; Cymraeg Gŵyl Llydaw; Gŵyl Erwan) yn gyfnod o ddathliadau sy'n dod â digwyddiadau sy'n tynnu sylw at ddiwylliant Llydaw at ei gilydd. Mae wedi cael ei reoli gan Gyngor Rhanbarthol Llydaw ers 2009. Fe'i ganed yn Naoned ym 1997 o dan yr enw Fête de la Saint-Yves (Gouel Sant Erwan) a sbardunwyd gan gymdeithas Asiantaeth Ddiwylliannol Lydaweg Loire-Atlantique[2] o ble mae wedi lledaenu yn Llydaw a ledled y byd.
Dechrau/Sefydlu | 1997 |
---|---|
Gwefan | http://www.fetedelabretagne.bzh |
Mae'r Fête de la Bretagne yn digwydd yn flynyddol oddeutu 19 Mai (diwrnod Nawddsant Erwan Sant, Saint-Yves ), o'r penwythnos cyn y dyddiad hwn tan yr un canlynol. Yn ôl y trefnwyr, mae 400,000 o wylwyr dros 8 diwrnod mewn 150 o ddigwyddiadau yn cael eu cyfrif ar gyfer rhifyn 2015.[3]
Ni ddylid drysu â Gouel Broadel ar Brezhoneg sy'n ŵyl annibynnol ar wahân iddo ac sy'n gyfan gwbl drwy gyfrwng yr iaith Lydaweg.