Gabriela Mistral
From Wikipedia, the free encyclopedia
Bardd yn yr iaith Sbaeneg, addysgwraig a diplomydd Tsileaidd oedd Gabriela Mistral (ganwyd Lucila Godoy Alcayaga; 7 Ebrill 1889 – 10 Ionawr 1957). Hi oedd y llenor cyntaf o America Ladin i ennill Gwobr Lenyddol Nobel, ac hynny yn 1945 am "ei barddoniaeth delynegol, a ysbrydolwyd gan emosiynau grymus, sydd wedi gwneud ei henw yn symbol o uchelgeisiau delfrydyddol yr holl fyd Lladin-Americanaidd".[1]
Gabriela Mistral | |
---|---|
Ffugenw | Gabriela Mistral |
Llais | 07 GABRIELA MISTRAL.ogg |
Ganwyd | Lucila de María Godoy Alcayaga 7 Ebrill 1889 Vicuña |
Bu farw | 10 Ionawr 1957 Hempstead |
Dinasyddiaeth | Tsile |
Alma mater | |
Galwedigaeth | bardd, diplomydd, athro, ysgrifennwr |
Cyflogwr |
|
Arddull | barddoniaeth |
Tad | Juan Jerónimo Godoy Villanueva |
Perthnasau | Juan Miguel Godoy Mendoza |
Gwobr/au | Gwobr Lenyddol Nobel, Gwobr Genedlaethol am Lenyddiaeth, Chevalier de la Légion d'Honneur |
Gwefan | http://www.gabrielamistral.uchile.cl/ |
llofnod | |
Ganwyd Lucila Godoy Alcayaga yn Vicuña, Tsile, i deulu o dras Sbaenaidd, Basgaidd, ac Indiaidd. Cafodd ei magu ym mhentref Montegrande, a chafodd swydd athrawes ysgol yn 15 oed. Gweithiodd ym maes addysg drwy gydol ei hoes, tra'n hefyd ysgrifennu a gwasanaethu mewn swyddi llywodraethol. Cyrhaeddodd swydd athrawes coleg a phenodwyd yn gyfarwyddwraig ysgolion gwledig. Cynorthwyodd weinidog addysg Mecsico, José Vasconcelos, wrth ddiwygio ysgolion y wlad honno. Yn ogystal â'i chyfnod yn weinidog diwylliannol Tsile, aeth i Ewrop fel is-gennad ym Madrid, Lisbon, Genoa, a Nice. Bu hefyd yn cynrychioli ei gwlad yng Nghynghrair y Cenhedloedd a'r Cenhedloedd Unedig.
Daeth i sylw fel bardd gyda'i chyfrol gyntaf, Sonetos de la muerte (1914), gwaith a enillodd wobr iddi. Mabwysiadodd y ffugenw Gabriela Mistral, cyfuniad o enwau ei hoff feirdd, Gabriele D'Annunzio a Frédéric Mistral. Mae ei hail lyfr, Desolación (1922), yn cynnwys y gerdd "Dolor" sy'n ymdrin â charwriaeth a ddaeth i ben pan wnaeth ei chariad ladd ei hun. Ni phriododd y bardd, o ganlyniad i'r profiad hwn.[2] Ymhlith ei chasgliadau eraill o farddoniaeth mae Ternura (1924), Tala (1938), a Lagar (1954).
Bu farw yn Hempstead, Efrog Newydd, yn 67 oed.