François Jaffrennou (Taldir)
ysgrifennwr, gwleidydd, bardd (1879-1956) / From Wikipedia, the free encyclopedia
Ganed y bardd, awdur a golygydd François-Joseph-Claude Jaffrennou (15 Mawrth 1879 – 23 Mawrth 1956), a adnabyddir fel Taldir, yn Karnoed, Llydaw, yn fab i gyfreithiwr. Daeth Taldir yn oedolyn pan oedd holl-Geltigiaeth a rhanbarthiaeth Ffrengig ar eu hanterth. Anodd gorbwysleisio pwysigrwydd perthynas Taldir â Chymru, rhywbeth a adlewyrchir yn ei gyhoeddiadau a’i ohebiaeth. Dysgodd Gymraeg yn rhugl, bu ar sawl ymweliad â Chymru, roedd yn un o sylfaenwyr Goursez Vreizh (Gorsedd Llydaw), a bu’n Drouiz-Meur (Archdderwydd) o 1933 i 1955.
François Jaffrennou | |
---|---|
Ffugenw | Taldir, Taldir Ab Hernin |
Ganwyd | 15 Mawrth 1879 Karnoed |
Bu farw | 23 Mawrth 1956 Bergerac |
Dinasyddiaeth | Breton |
Alma mater | |
Galwedigaeth | ysgrifennwr, gwleidydd, bardd |
Adnabyddus am | Q2859295, Goursez Vreizh |
Tad | Claude Jaffrennou |
Mam | Anna Ropars |
Plant | Gildas Jaffrennou |
Gwobr/au | Chevalier de la Légion d'Honneur |
Yn ddyn ifanc cyhoeddodd Taldir saith casgliad o gerddi a chaneuon Llydaweg rhwng 1899 ac 1911. Cafodd lwyddiant yn Llydaw a daeth yn enw cyfarwydd yng Nghymru hefyd trwy ei ymweliad ag Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 1899, ble derbyniwyd i’r Orsedd, ei erthyglau yng nghylchgronnau O.M. Edwards Cymru (cylchgrawn) a Cymru'r Plant, a thrwy gyfieithiadau Cymraeg T. Gwynn Jones o’i gerddi. Cyhoeddodd gyfrol ddwyieithog (Llydaweg a Chymraeg) o gerddi gyda’i athro Cymraeg Frañsez Vallée (Abhervé) yn dilyn ymweliad y ddau â Chymru yn 1899; mae nifer o’r cerddi yn Gwerziou gant Abhervé ha Taldir yn disgrifio neu wedi eu cyflwyno i Gymry oedd wedi chwarae rhan amlwg yn yr Eisteddfod, fel Rowland Williams (Hwfa Môn), Edward Thomas (Cochfarf), a’r Tad Hayde (Offeiriad Catholig yn Eglwys Sant Pedr, Caerdydd). [1] Yn dilyn yr Eisteddfod, aeth Taldir i Flaenau Ffestiniog i aros gyda rhieni ei gyfaill o Baris yr artist John ‘Kelt’ Edwards, Pwyntil Meirion. Adrodda mewn taithysgrif Gymraeg fod trigolion Blaenau Ffestiniog yn chwerthin am ei drowsus mawr Llydewig – y bragou-braz enwog – ond nad yw’n dal dig, a dywed am bobl Gogledd Cymru: ‘y maent yn gyfeillion i bob un a fedr siarad Cymraeg, ac yn hoff iawn o’u brodyr o Lydaw’, [2] Yn haf 1900 aeth John ‘Kelt’ Edwards â Thaldir i swyddfa Yr Herald Cymraeg ble cwrddodd â T. Gwynn Jones. [3] Cyfieithodd Gwynn nifer o gerddi Taldir i’r Gymraeg. Cynhwysodd rai yn Gwlad y Gân a Chaniadau Eraill (1902), a’r flwyddyn ddilynol cyhoeddwyd ym Mharis saith ohonynt yn y casgliad Barzaz Taldir/ Les Poèmes de Taldir. [4]
Cyhoeddodd Taldir hefyd ysgrifau yn Ffrangeg a Llydaweg yn disgrifio ei gyfnod yng Nghymru.[5]
Flwyddyn ar ôl yr ymweliad â Chaerdydd, ffurfiwyd Goursez Vreizh (Gorsedd Llydaw) ym Medi 1900. Y mae ganddi hyd heddiw berthynas agos gyda’i chwaer-sefydliad yng Nghymru.[6]
Cyfieithodd Taldir Hen Wlad fy Nhadau i’r Llydaweg yn 1897, i gerddoriaeth James James Pontypridd. Cynhwysir y gerdd yn Barzaz Taldir/ Les Poèmes de Taldir (1903), ac fe ddewisiwyd Bro Gozh ma Zadoù fel anthem Llydaw yn 1903 yn dilyn ei mabwysiadu gan yr Union régionaliste bretonne. Dylid nodi i’r Parchedig William Jenkyn Jones, cenhadwr Protestanaidd yn Llydaw, gyfieithu’r anthem hefyd yn 1895.
Chwaraeodd Taldir ran allweddol yn y mudiad Llydewig, trwy ei waith fel golygydd, newyddiadurwr, gwleidydd a Drouiz-Meur (Archdderwydd). Arestiwyd Taldir ar 7 Awst 1944, ac eto ar 10 Awst 1944, ar gyhuddiad o fod wedi gwasanaethu’r gelyn yn yr Ail Ryfel Byd, ac o fod eisiau Llydaw annibynnol mewn Ewrop Hitleraidd. Fe’i carcharwyd tan 1946, ac yna bu’n byw’n alltud yn Le Mans ac wedyn Bergerac. Tynnodd ei achos sylw yng Nghymru, a derbyniodd gefnogaeth gan y rhwydwaith gorseddol. [7]