Ffriseg
From Wikipedia, the free encyclopedia
Iaith Germanaidd orllewinol a siaredir yn yr Iseldiroedd a'r Almaen yw Ffriseg. Tri amrywiad sydd i'r iaith: Ffriseg y Gorllewin, Ffriseg y Gogledd a Saterffriseg (Ffriseg y Dwyrain); mae nifer o ieithyddion yn eu hystyried yn dair iaith ar wahân.[1] Ynghyd â'r ieithoedd Angliaidd maent yn ffurfio'r grŵp Eingl-Ffrisiaidd.[2] Ffriseg yw'r iaith sy'n perthyn yn agosaf at y Saesneg, ac eithrio'r Sgoteg.[3]
Ffriseg | ||
---|---|---|
Frysk | ||
Siaredir yn | Yr Iseldiroedd, Yr Almaen | |
Rhanbarth | Fryslân, Groningen, Niedersachsen, Schleswig-Holstein | |
Cyfanswm siaradwyr | 480,000 | |
Teulu ieithyddol | Indo-Ewropeaidd
| |
Tafodieithoedd | Ffriseg y Gorllewin
Saterffriseg
Ffriseg y Gogledd
| |
System ysgrifennu | Yr wyddor Ladin | |
Statws swyddogol | ||
Iaith swyddogol yn | Yr Iseldiroedd Yr Almaen | |
Rheoleiddir gan | Fryske Akademy (Ffriseg y Gorllewin) | |
Codau ieithoedd | ||
ISO 639-1 | Dim | |
ISO 639-2 | – | |
ISO 639-3 | variously: fry – Ffriseg y Gorllewin frr – Ffriseg y Gogledd stq – Saterffriseg | |
Wylfa Ieithoedd | 52-ACA | |
Dosbarthiad yr ieithoedd Ffriseg yn Ewrop: Ffriseg y Gorllewin Saterffriseg Ffriseg y Gogledd |
Tybir gan ambell ysgolhaig i iaith Eingl-Ffriseg fodoli yn y cyfnod cyn i'r Eingl-Sacsoniaid gyrraedd Prydain yn y 5g pan oedd y Ffrisiaid yn ymfudo i Loegr.[3] Yn yr Hen Ffriseg mae cofnodion ysgrifenedig hynaf yr iaith, sy'n dyddio o ddiwedd y 13g, a pharhaodd y cyfnod hwn o'r iaith hyd ddiwedd y 16g. Dangosa Hen Ffriseg y nodweddion sy'n gwahaniaethu Ffriseg fodern a Saesneg oddi ar yr ieithoedd Germanaidd eraill. Yn hanesyddol fe'i siaredir ar draws ardal Ffrisia: o'r Isalmaen (heddiw Noord-Holland) ar hyd arfordir Môr y Gogledd i Schleswig, ac Ynysoedd Ffrisia yng Ngeneufor yr Almaen. Anaml y defnyddid Ffriseg yn iaith ysgrifenedig yn y tair canrif nesaf, ond gwelir adfywiad yr iaith yn y ganrif ddiwethaf yng Ngorllewin Ffrisia. Yno mae cadarnle'r iaith, a'i defnyddir ar y cyd â'r Iseldireg; fe'i disodlir yn raddol gan yr Almaeneg yn Nwyrain a Gogledd Ffrisia.[4]