Ewthanasia
dod â bywyd person i ben / From Wikipedia, the free encyclopedia
Ewthanasia (o'r Groeg: ευθανασία -'ευ "da" neu "esmwyth", θανατος "marwolaeth") yw'r broses o derfynu bywyd person neu anifail sy'n dioddef er mwyn osgoi mwy o boen.
Mae cyfreithlondeb ewthanasia yn amrywio o wlad i wlad. Mae'r Pwyllgor Dethol ar Foeseg Meddygol yn Nhŷ'r Arglwyddi yn diffinio ewthanasia fel "ymyriad bwriadol a wneir gyda'r amcan penodol o ddiweddu bywyd a lliniaru dioddefaint anhydrin".[1] Yn yr Iseldiroedd a Flanders, cyfeiria ewthanasia at "derfynu bywyd gan ddoctor ar gais y claf".[2]