![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/8/83/2014_EP_election.png/640px-2014_EP_election.png&w=640&q=50)
Etholiad Senedd Ewrop, 2014
From Wikipedia, the free encyclopedia
Rhwng 22–25 Mai 2014 cynhaliwyd etholiadau ar gyfer Senedd Ewrop ar hyd a lled yr Undeb Ewropeaidd. Dyma wythfed etholiad y llywodraeth ers 1979 a'r etholiad cyntaf lle gwelwyd pleidiau traws-Ewrop yn cynnig ymgeiswyr ar gyfer swydd Llywydd y Comisiwn. Yr ymgeiswyr (a'u gelwir weithiau â'r enw Almaeneg Spitzenkandidaten[1]) oedd: Jean-Claude Juncker ar ran Plaid Pobl Ewrop, Martin Schulz ar ran Plaid y Sosialwyr Ewropeaidd, Guy Verhofstadt (Cynghrair y Rhyddfrydwyr a'r Democratiaid dros Ewrop), Ska Keller a José Bové ill dau ar ran Plaid Werdd Ewrop ac Alexis Tsipras ar ran Plaid Asgell Chwith Ewrop.
Ffeithiau sydyn Enghraifft o'r canlynol, Dyddiad ...
![]() | |
Enghraifft o'r canlynol | etholiadau i Senedd Ewrop ![]() |
---|---|
Dyddiad | 25 Mai 2014 ![]() |
Dechreuwyd | 22 Mai 2014 ![]() |
Daeth i ben | 25 Mai 2014 ![]() |
Rhagflaenwyd gan | Etholiadau Senedd Ewrop ![]() |
Olynwyd gan | Etholiad Senedd Ewrop, 2019 ![]() |
Gwefan | http://www.elections2014.eu/en ![]() |
![]() |
Cau
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/2/29/EP2014-constituencies.svg/320px-EP2014-constituencies.svg.png)
Drwy Ewrop, roedd 751 o seddi angen eu llenwi. Yn etholiadau Ewrop, ystyrir Cymru yn un etholaeth seneddol.