Emanuel Lasker
From Wikipedia, the free encyclopedia
Roedd Emanuel Lasker (24 Rhagfyr 1868 - 11 Ionawr 1941) yn chwaraewr gwyddbwyll, mathemategydd, ac athronydd Almaenig. Ef oedd ail Bencampwr Gwyddbwyll y Byd, am gyfnod o 27 mlynedd, o 1894 i 1921, teyrnasiad hiraf unrhyw Bencampwr. Ar ei anterth, roedd Lasker yn un o'r pencampwyr amlycaf, ac fe'i ystyrir yn un o'r chwaraewr cryfaf mewn hanes hyd heddiw.
Emanuel Lasker | |
---|---|
Ganwyd | 24 Rhagfyr 1868 Barlinek |
Bu farw | 11 Ionawr 1941 Dinas Efrog Newydd |
Dinasyddiaeth | Ymerodraeth yr Almaen, Gweriniaeth Weimar |
Addysg | doethuriaeth |
Alma mater |
|
ymgynghorydd y doethor | |
Galwedigaeth | mathemategydd, chwaraewr gwyddbwyll, bridge player, athronydd, arbenigwr gwyddbwyll |
Cyflogwr | |
Priod | Martha Lasker |
Gwobr/au | pencampwr gwyddbwyll y byd, Hall of Fame des deutschen Sports |
Chwaraeon | |
Gwlad chwaraeon | Ymerodraeth yr Almaen |
Dywedai ei gyfoeswyr bod Lasker yn defnyddio agwedd "seicolegol" at y gêm, a'i fod weithiau'n chwarae symudiadau israddol yn fwriadol er mwyn drysu ei wrthwynebwyr. Dangosodd dadansoddiad diweddar, fodd bynnag, ei fod o flaen ei amser ac yn defnyddio dulliau mwy hyblyg na'i gyfoeswyr, a oedd yn drysu llawer ohonynt. Roedd Lasker yn astudio'r dadansoddiadau cyfoes o'r agoriadau ond yn anghytuno â llawer ohonynt. Cyhoeddodd gylchgronau gwyddbwyll a phum llyfr gwyddbwyll, ond cafodd chwaraewyr a sylwebwyr hi'n anodd dysgu gwersi o'i ddulliau.
Cyfrannodd Lasker at ddatblygiad gemau eraill. Yr oedd yn chwaraewr 'contract bridge' o'r radd flaenaf[1] ac ysgrifennodd am bridge, Go, a'r gem ddyfeisiodd ei hun, Lasca. Cyflwynodd brobem yn ei lyfrau am gemau sy'n dal i gael ei hystyried yn nodedig mewn dadansoddiad mathemategol o gemau cardiau. Roedd Lasker yn fathemategydd ymchwil a oedd yn adnabyddus am ei gyfraniadau i algebra cymunol, a oedd yn cynnwys profi dadelfeniad sylfaenol o ddelfrydau modrwyau polynomaidd. Fodd bynnag, ychydig iawn o sylw a gafodd ei weithiau athronyddol, a'r ddrama a gyd-ysgrifennodd.