Eglwys y Geni
basilica ym Methlehem / From Wikipedia, the free encyclopedia
Basilica ym Methlehem yn y Lan Orllewinol yw Eglwys y Geni, neu weithiau Basilica'r Geni.[lower-alpha 1] Ceir groto oddi fewn i'r eglwys sydd ag arwyddocâd crefyddol amlwg i Gristnogion o wahanol enwadau fel man geni honedig Iesu Grist. Y groto yw'r safle hynaf a ddefnyddir fel addoldy Cristnogol, a'r basilica yw'r brif eglwys hynaf yn y Wlad Sanctaidd.
Math | basilica minor, basilica, Safle Treftadaeth y Byd |
---|---|
Enwyd ar ôl | Nadolig, Holy Cradle |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Man Geni'r Iesu: Eglwys y Geni a Llwybr y Pererinion, Bethlehem |
Sir | Bethlehem |
Gwlad | Palesteina |
Arwynebedd | 2.98 ha, 23.45 ha |
Cyfesurynnau | 31.70431°N 35.20758°E |
Arddull pensaernïol | pensaernïaeth Cristnogaeth Fore, pensaernïaeth Romanésg |
Statws treftadaeth | Safle Treftadaeth y Byd |
Cysegrwyd i | Geni'r Iesu |
Manylion | |
Deunydd | craig |
Esgobaeth | Eglwys Uniongred Roegaidd Jeriwsalem, Patriarchaeth Ladin Jeriwsalem, Patriarchaeth Armenaidd Jeriwsalem |
Comisiynwyd yr eglwys yn wreiddiol gan Cystennin I, ymerawdwr Rhufain, ychydig amser ar ôl ymweliad ei fam Helena â Jeriwsalem a Bethlehem yn 325–326, ar y safle a ystyrid yn draddodiadol fel man geni yr Iesu.[1] Mae'n debyg bod y basilica gwreiddiol hwnnw wedi'i adeiladu rhwng 330 a 333, ac fe'i cysegrwyd ar 31 Mai 339.[1] Fe'i dinistriwyd gan dân yn ystod gwrthryfeloedd y Samariaid yn y 6g, o bosibl yn 529, ac adeiladwyd basilica newydd nifer o flynyddoedd yn ddiweddarach gan yr Ymerawdwr Bysantaidd Iwstinian I (a deyrnasodd o 527 i 565). Ychwanegodd Iwstinian gyntedd a disodli'r gysegr wythochrog gyda thrawslun croesffurf wedi'i orchuddio â thri aps, ond i raddau helaeth roedd yn cadw cymeriad gwreiddiol yr adeilad, gydag atriwm a basilica yn cynnwys corff gyda phedwar ystlys.[1][2]
Mae Eglwys y Geni, er ei bod yn aros yn ddigyfnewid (fwy neu lai) ers ei ailadeiladu yn oes Iwstinian, wedi gweld nifer o atgyweiriadau ac ychwanegiadau, yn enwedig o gyfnod y Croesgadwyr, megis dau glochdy, brithwaith wal a phaentiadau (wedi'u cadw'n rhannol). Dros y canrifoedd, mae'r adeiladau o'i amgylch wedi'i ehangu, a heddiw mae'n gorchuddio oddeutu 12,000 metr sgwâr, yn cynnwys tair mynachlog wahanol: un Eglwys Uniongred Roegaidd, un Apostolaidd Armenaidd, ac un Gatholig Rhufeinig.[3] Mae'r ddau gyntaf o'r rhain yn cynnwys tyrau cloch wedi'u hadeiladu yn ytod yr oes fodern.[4]
Cafodd y seren arian, sy'n nodi'r fan lle cafodd Crist ei eni, gydag arysgriiad Lladin, ei dwyn yn Hydref 1847 gan fynachod Groegaidd a oedd am gael gwared ar yr eitem Gatholig hon.[5] Mae rhai yn honni bod hyn yn ffactor a gyfrannodd at Ryfel y Crimea yn erbyn Ymerodraeth Rwsia;[6] mae eraill yn honni bod y rhyfel wedi tyfu allan o'r sefyllfa Ewropeaidd ehangach.[7]
Er 2012, mae Eglwys y Geni yn Safle Treftadaeth y Byd a hwn oedd y cyntaf i gael ei restru gan UNESCO o dan wlad 'Palesteina'.[8][9]
Mae cytundebh 250 oed ymhlith cymunedau crefyddol yr ardal, o'r enw y Status Quo, yn berthnasol i'r safle.[10][11]