Ecoleg
From Wikipedia, the free encyclopedia
Ecoleg yw'r astudiaeth o'r berthynas rhwng organebau byw, gan gynnwys bodau dynol, a'u hamgylchedd ffisegol; (Groeg: oikos yw tŷ a logos yw gwyddoniaeth. Mae ecoleg yn ystyried organebau ar lefel unigol, poblogaeth, cymuned, ecosystem a biosffer. Mae'n gorgyffwrdd â gwyddorau megis bioddaearyddiaeth, bioleg esblygiadol, geneteg, etholeg, a hanes naturiol. Cangen o fioleg yw ecoleg, ac nid yw'n gyfystyr ag amgylcheddaeth sy'n athroniaeth eang, yn ideoleg ac yn symudiad cymdeithasol.
Enghraifft o'r canlynol | disgyblaeth academaidd, cangen o fywydeg, cangen o ddaearyddiaeth |
---|---|
Math | bywydeg |
Yn cynnwys | ecoleg dynol, ecoleg planhigion, ecoleg genetig, ecoleg anifail |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae ecoleg yn delio efo ynni a'i ffynhonnell (yr haul) a phrosesau ffotosynthesis. Mae ecoleg, bioleg a gwyddorau byw arall yn gorgyffwrdd efo sŵoleg a daearyddiaeth, sy'n disgrifio'r pethau mae ecoleg yn ceisio'u rhagdybio. Gan fod planhigion gwyrdd yn rhyddhau'r rhan fwyaf o ocsigen moleciwlar yn fyd-eang gellir eu hystyried yn rhan hanfodol o ecoleg, yn enwedig ar y tir. Mae'r berthynas rhwng anifeiliaid a phlanhigyn yn allweddol i hyn oherwydd yr ailgylchu nwyon sy'n digwydd drwy resbiradaeth.
Dros y degawdau diwethaf mae ecolegwyr wedi dangos diddordeb a phryder mewn newid hinsoddol a chynhesu byd eang ac effaith hyn ar ecoleg.
Ymhlith pethau eraill, ecoleg yw'r astudiaeth o:
- Nifer, biomas, a dosbarthiad organebau yng nghyd-destun yr amgylchedd
- Brosesau bywyd, rhyngweithiadau, ac addasiadau
- Symud deunyddiau ac egni trwy gymunedau byw
- Ddatblygiad ecosystemau
- Gydweithrediad, cystadleuaeth, ac ysglyfaethu o fewn a rhwng rhywogaethau
- Batrymau bioamrywiaeth a'i effaith ar brosesau'r ecosystem
Mae gan ecoleg gymwysiadau ymarferol mewn bioleg cadwraeth, rheoli gwlyptiroedd, rheoli adnoddau naturiol (agroecoleg, amaethyddiaeth, coedwigaeth, amaethgoedwigaeth, pysgodfeydd, mwyngloddio, twristiaeth), cynllunio trefol (ecoleg drefol), iechyd cymunedol, economeg, gwyddoniaeth sylfaenol a chymhwysol, a'r rhyngweithio rhwng pobl a chymdeithas (ecoleg ddynol). Ymhlith biolegwyr mwya'r byd y mae'r Cymro Alfred Russel Wallace.
Bathwyd y gair ecoleg (Almaeneg: Ökologie) yn 1866 gan y gwyddonydd Almaenig Ernst Haeckel a dechreuodd gwyddoniaeth ecoleg fel yr ydym yn ei hadnabod heddiw gyda grŵp o fotanegwyr Americanaidd yn y 1890au.[1] Mae cysyniadau esblygiadol yn ymwneud ag addasu a detholiad naturiol yn gonglfeini damcaniaeth ecolegol fodern.
Mae ecosystemau yn systemau organebau sy'n rhyngweithio'n ddeinamig. Mae prosesau ecosystem, megis cynhyrchu, cylchredeg maetholion yn rheoleiddio llif egni a mater trwy'r amgylchedd. Mae gan ecosystemau fecanweithiau adborth bioffisegol sy'n cymedroli prosesau sy'n gweithredu ar gydrannau byw (biotig) ac anfiotig y blaned. Gwaith yr ecosystemau hyn yw cynnal bywyd a darparu gwasanaethau ecosystemau fel cynhyrchu biomas (bwyd, tanwydd, ffibr, a meddygaeth), rheoleiddio hinsawdd, cylchoedd biogeocemegol byd-eang, hidlo dŵr, ffurfio pridd, rheoli erydiad, amddiffyn rhag llifogydd, a llawer o nodweddion naturiol eraill o werth gwyddonol, hanesyddol, economaidd neu gynhenid.