Dubrovnik
From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae Dubrovnik (Nodyn:IPA-hrNodyn:IPA-hr;[1] hanesyddol Lladin: Ragusa) yn ddinas Croataidd ar arfordir y Mor Adriatig. Mae'n un o brif atyniadau i dwristiaid ar For y Canoldir, gyda phorthladd a chanolbarth canolfan Dubrovnik-Neretva County. Cyfanswm ei phoblogaeth fel dinas yw 42,615 (cyfrifiad). Yn 1979, ymunodd dinas Dubrovnik a rhestr UNESCO o Safleoedd Treftadaeth Byd-eang,
Arwyddair | La liberté ne se vend pas même pour tout l'or du monde |
---|---|
Math | tref yn Croatia, dinas |
Cysylltir gyda | Ffordd Ewropeaidd E65 |
Poblogaeth | 41,562 |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth | Andro Vlahušić |
Gefeilldref/i | |
Nawddsant | Blaise of Sebaste |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Sir Dubrovnik-Neretva |
Sir | Sir Dubrovnik-Neretva |
Gwlad | Croatia |
Arwynebedd | 142.6 km², 12.1 km² |
Uwch y môr | 3 ±1 metr |
Cyfesurynnau | 42.6403°N 18.1083°E |
Cod post | 20000 |
Pennaeth y Llywodraeth | Andro Vlahušić |
Roedd ffyniant y ddinas yn seiliedig yn hanesyddol ar fasnach morwrol; fel prifddinas hen Weriniaeth Ragusa. datblygodd yn sylweddol, yn arbennig yn ystod y 15fed a 16g, wrth iddi ddod yn fwy nodedig am ei chyfoeth a'i diplomyddiaeth fedrus.
Yn 1991, yn dilyn hollti'r hen Iwgoslafia, daeth Dubrovnik dan warchae milwyr Serbaidd a Montenegrin Byddin y Bobl Iwgoslafaidd (JNA) am saith mis a dioddefodd ddifrod sylweddol o ganlyniad i'w bombardio.[2][3][4][5][6][7][8][9] Ar ôl gwaith atgyweirio ac adnewyddu yn y 1990au a'r 2000au cynnar, daeth Dubrovnik unwaith eto yn un o'r prif gyrchfannau twristaidd Mor y Canoldir.[10][11][12][13]