Doris Day
actores a aned yn 1922 / From Wikipedia, the free encyclopedia
Actores, cantores ac ymgyrchydd hawliau anifeiliaid oedd Doris Day (ganwyd Doris Mary Ann Kappelhoff, 3 Ebrill 1922 – 13 Mai 2019).[1]. Cychwynodd ei gyrfa fel canwr 'big band' yn 1949 a cynyddodd ei phoblogrwydd gyda'i recordiad llwyddiannus cyntaf "Sentimental Journey" (1945). Ar ôl gadael band Les Brown & his Band of Renown i ddechrau gyrfa unigol, recordiodd mwy na 650 cân rhwng 1947 a 1967, gan ei gwneud yn un o gantorion mwyaf poblogaidd a chanmoledig yr 20g.
Doris Day | |
---|---|
Ganwyd | Doris Mary Anne Kappelhoff 3 Ebrill 1922 Cincinnati |
Bu farw | 13 Mai 2019 o niwmonia Carmel Valley |
Man preswyl | Cincinnati |
Label recordio | Columbia Records, Philips Records |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Galwedigaeth | actor ffilm, canwr, actor teledu, artist recordio, actor |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | Qué Será, Será |
Arddull | cerddoriaeth bop, draddodiadol, big band, cerddoriaeth boblogaidd |
Plaid Wleidyddol | plaid Weriniaethol |
Tad | Frederick Wilhelm Kappelhoff |
Mam | Alma Sophia Welz |
Priod | George William Weidler, Martin Melcher, Barry Comden, Al Jorden |
Plant | Terry Melcher |
Gwobr/au | Gwobr Grammy am Gyraeddiadau Gydol Oes, Gwobr Henrietta, Gwobr Henrietta, Gwobr Henrietta, Gwobr Golden Globe Cecil B. DeMille, Gwobr Neuadd Enwogion y Grammy, Medal Rhyddid yr Arlywydd, Gwobr Grammy am Gyraeddiadau Gydol Oes, Gwobr Neuadd Enwogion y Grammy, Oriel yr Anfarwolion Ohio, Gwobr Grammy, Cwpan Arian Merch y Flwyddyn y Los Angeles Times, seren ar Rodfa Enwogion Hollywood |
Gwefan | https://www.dorisday.com |
llofnod | |
Cychwynnodd gyrfa ffilm Day yn ail hanner y cyfnod Ffilm Hollywood Clasurol gyda'r ffilm Romance on the High Seas (1948), a thrwy lwyddiant y ffilm cychwynnodd ei gyrfa ugain mlynedd fel actores mewn ffilmiau nodwedd. Serennodd mewn sawl ffilm lwyddiannus yn cynnwys sioeau cerdd, comediau a dramau. Chwaraeodd y prif ran yn Calamity Jane (1953) a serennodd yn ffilm Alfred Hitchcock The Man Who Knew Too Much (1956) gyda James Stewart. Ei ffilmiau mwyaf llwyddiannus oedd y rhai lle'r oedd yn cyd-serennu gyda Rock Hudson a James Garner, megis Pillow Talk (1959) a Move Over, Darling (1963), yn eu trefn. Cyd-serennodd gyda sawl gŵr blaenllaw fel Clark Gable, Cary Grant, David Niven, a Rod Taylor. Ar ôl ei ffilm olaf yn 1968, aeth ymlaen i serennu ar y gomedi sefyllfa The Doris Day Show (CBS, 1968–1973).
Roedd Day fel arfer yn un o'r cantorion deg uchaf rhwng 1951 a 1966. Fel actores, daeth yn un o'r sêr benywaidd mwyaf yn yr 1960au cynnar, gan gyrraedd rhif chwech mewn rhestr o berfformwyr yn y ffilmiau mwyaf llwyddiannus yn ariannol erbyn 2012.[2][3][4] Yn 2011, ryddhaodd ei 29ain albwm stiwdio gyda deunydd newydd, My Heart a ddaeth yn albwm 10 uchaf yn y DU. Ymhlith ei gwobrau, derbyniodd Wobr Cyflawniad Oes y Grammy a Gwobr Chwedl gan Society of Singers. Yn 1960, fe'i henwebwyd ar gyfer Gwobr Academi ar gyfer Actores Orau,[5] ac yn 1989 derbyniodd y Wobr Cecil B. DeMille am gyflawniad oes mewn ffilmiau nodwedd. Yn 2004, derbyniodd Fedal Rhyddid Arlywyddol gan yr Arlywydd George W. Bush wedi ei ddilyn yn 2011 gan Wobr Cyflawniad Gyrfa y Los Angeles Film Critics Assocation. Roedd yn un o sêr olaf oedd wedi goroesi ers Oes Aur Hollywood.