Dorchester, Dorset
tref yn Dorset / From Wikipedia, the free encyclopedia
Tref farchnad a phlwyf sifil yn sir seremonïol Dorset, De-orllewin Lloegr, yw Dorchester.[1] Gorwedd ar lan Afon Frome. Cysylltir Dorchester â nofelau Thomas Hardy, lle mae'n sail i'r dref ffuglennol Casterbridge (e.e. yn y nofel The Mayor of Casterbridge).
Ffeithiau sydyn Math, Ardal weinyddol ...
Math | tref sirol, plwyf sifil, tref farchnad |
---|---|
Ardal weinyddol | Dorset (awdurdod unedol) |
Poblogaeth | 20,135 |
Gefeilldref/i | Bayeux |
Daearyddiaeth | |
Sir | Dorset (Sir seremonïol) |
Gwlad | Lloegr |
Arwynebedd | 4.92 km² |
Uwch y môr | 55 metr |
Cyfesurynnau | 50.7108°N 2.4397°W |
Cod SYG | E04003533 |
Cod OS | SY690906 |
Cod post | DT1 |
Cau
Yn Oes yr Haearn, wrth yr enw Durnovaria, roedd yn un o brif ddinasoedd y Durotriges, llwyth Celtaidd oedd a'u tiriogaethau yn yr hyn sy'n awr yn Dorset, de Wiltshire a de Gwlad yr Haf. Daeth yn ddinas Rufeinig a cheir sawl safle o'r cyfnod yno heddiw.