Dinas Gaza
dinas ym Mhalesteina / From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae Gaza (Arabeg: غَزَّة Ġazzah) neu Dinas Gaza[1], yn ddinas yn Llain Gaza, Palestina, gyda phoblogaeth o 590,481 (yn 2017), sy'n golygu mai hi yw dinas fwya'r wlad. Mae yma olion pobl a fu yma ers 15g CC o leiaf, ac mae nifer o bobloedd ac ymerodraethau gwahanol wedi rheoli Gaza tros lawer o'i hanes. Mae'n rhan o Llywodraethiaeth Gaza sy'n un o 16 Llywodraethiaethau Palesteina.
Math | dinas, dinas fawr, Bwrdeistrefi Gwladwriaeth Palesteina |
---|---|
Poblogaeth | 590,481 |
Sefydlwyd |
|
Pennaeth llywodraeth | Nizar Hijazi |
Cylchfa amser | UTC+2 |
Gefeilldref/i | |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Israeli-occupied territories |
Sir | Llywodraethiaeth Gaza |
Gwlad | Palesteina |
Arwynebedd | 45 km² |
Uwch y môr | 30 metr |
Cyfesurynnau | 31.52°N 34.45°E |
Cod post | 860 |
Pennaeth y Llywodraeth | Nizar Hijazi |
Gwnaeth y Ffilistiaid yr ardal yn rhan o'u pentapolis ar ôl i'r Hen Eifftiaid ei rheoli am bron i 350 o flynyddoedd.
O dan y Rhufeiniaid profodd Gaza heddwch cymharol a ffynnodd ei phorthladd. Yn 635, hi oedd y ddinas gyntaf ym Mhalesteina i gael ei gorchfygu gan fyddin Fwslimaidd y Rashidun a'i datblygu'n gyflym i fod yn ganolfan cyfraith Islamaidd.
Wedi i'r Croesgadwyr oresgyn y wlad o 1099 ymlaen, roedd Gaza'n adfeilion. Yn y canrifoedd dilynol, profodd Gaza galedi mawr - o gyrchoedd Mongol i lifogydd a locustiaid, gan ei ostwng i statws pentref erbyn yr 16g, pan gafodd ei ymgorffori yn yr Ymerodraeth Otomanaidd. Yn ystod hanner cyntaf rheolaeth yr Otomaniaid, roedd llinach Ridwan yn rheoli Gaza ac oddi tanynt aeth y ddinas trwy oes o fasnachu ac o heddwch. Sefydlwyd bwrdeistref Gaza ym 1893.
Syrthiodd Gaza i luoedd Prydain yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, gan ddod yn rhan o Balesteina Gorfodol, sef Palesteina dan Fandad. O ganlyniad i Ryfel Arabaidd-Israel 1948, gweinyddodd yr Aifft diriogaeth Llain Gaza a gwnaed sawl gwelliant yn y ddinas. Cipiwyd Gaza gan Israel yn y Rhyfel Chwe Diwrnod ym 1967, ond ym 1993, trosglwyddwyd y ddinas i Awdurdod Cenedlaethol Palestina a oedd newydd ei greu. Yn ystod y misoedd yn dilyn etholiad 2006, fe ddaeth gwrthdaro arfog rhwng carfannau gwleidyddol Palestina, sef Fatah a Hamas, gan arwain at yr olaf yn cymryd grym yn Gaza. O ganlyniad, gosododd yr Aifft ac Israel rwystr ar Llain Gaza.[2][3]
Prif weithgareddau economaidd Gaza yw diwydiannau bychan ac amaethyddiaeth. Fodd bynnag, mae'r blocâd, gan Israel, a'r gwrthdaro parhaus wedi rhoi'r economi dan bwysau difrifol.[4] Mae mwyafrif trigolion Gaza yn Fwslimiaid, er bod lleiafrif Cristnogol bach hefyd. Mae gan Gaza boblogaeth ifanc iawn, gyda thua 75% o dan 25 oed. Ar hyn o bryd mae'r ddinas yn cael ei gweinyddu gan gyngor trefol 14 aelod.