Dillad pêl-droed
From Wikipedia, the free encyclopedia
Fel llawer o chwaraeon eraill, mae dillad pêl-droed (weithiau "cut pêl-droed") yn rhan hanfodol o'r gamp ac yn ddillad arbennig a wisgir gan y timau sy'n chwarae'r gêm. Mae rheolau pêl-droed yn nodi'r lleiafswm sy'n rhaid ei wisgo, ac yn gwahardd defnyddio unrhyw ddilledyn sy'n beryglus i naill ai'r chwaraewyr neu'r gwylwyr.[1] Gall cystadleuthau amrywiol fynnu rheolau eraill parthed y dillad hyn, er enghraifft maint y logos sydd ar y crysau. Gallant hefyd fynnu, pan fo dillad y ddau dim o'r un lliwiau (neu liwiau tebyg) mai'r tim cartref sy'n gwisgo'r lliwiau arferol.
Yn gyffredinol, gwisga'r chwaraewyr rif ar gefn eu crysau er mwyn eu hadnabod yn hawdd. Yn wreiddiol, defnyddiwyd y rhifau 1 i 11, fwy neu lai wedi eu gosod yn ôl eu safle, ond ar lefel uchel o chwarae, mae rhifau'r sgwad wedi cymryd drosodd h.y. rhif i'r chwaraewr unigol a gedwir drwy gydol y tymor. Yn ychwanegol at y rhif hwn, mae clybiau proffesiynol hefyd yn arddangos cyfenw neu lysenw'r chwaraewr uwchben y rhif.