Denisovan
From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae'r Denisovan neu'r Denisova hominin yn rhywogaeth neu'n isrywogaeth o'r genws Homo a oedd yn byw tua 41,000 o flynyddoedd yn ôl (Cyn y Presennol CP. Mae bellach wedi'i difodi. Dros dro, rhoddwyd iddo'r enw gwyddonol Homo sp. Altai[1] a Homo sapiens ssp. Denisova.[2][3]
Ym Mawrth 2010 cyhoeddwyd fod Paleoanthropolegwyr wedi darganfod asgwrn bys benyw ifanc a oedd yn byw tua 41,000 (CP) yn Ogof Denisova ym Mynyddoedd yr Altai, Siberia. Roedd y gwyddonwyr yn ymwybodol o'r ogof cyn hyn gan fod llawer o olion Neanderthal wedi'i ganfod yno yn ogystal â bodau dynol modern.[4][5][6]
Ers y darganfyddiad hwnnw yn 2010 cafwyd hyd i ddau ddant arall o'r un rhywogaeth: yn Nhachwedd 2015 cafwyd dant gyda deunydd DNA. Yn 2016 darganfuwyd nodwydd a wnaed o asgwrn ac a ddyddiwyd i 50,000 CP; dyma felly'r nodwydd hynaf.[7][8][9]