Cytundeb Lausanne
cytundeb heddwch rhwng Gweriniaeth Twrci a'r Pwerau Cysylltiedig ar ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf, gan ddisodli Cytuniad Sèvres / From Wikipedia, the free encyclopedia
Roedd Cytundeb Lausanne yn gytundeb heddwch a lofnodwyd yn Lausanne, Y Swistir 24 Gorffennaf 1923 rhwng Twrci a Pwerau'r Entente (Ffrainc, Y Deyrnas Unedig, Yr Eidal, Siapan, Gwlad Groeg a Rwmania) a fu'n ymladd yn y Rhyfel Byd Cyntaf a Rhyfel Annibyniaeth Twrci. Rhoddodd y Cytundeb, a elwir hefyd yn Gonfensiwn Lausanne, ddiwedd ar y gwrthdaro Groeg-Twrceg gwaedlyd gan gadarnhau y ffiniau rhwng Groeg, Bwlgaria a Thwrci, yn ogystal â phenderfynu ar ddiwedd pob hawliad Twrcaidd ar Cyprus, Irac a Syria, a ffiniau dwyreiniol Twrci ynghyd â Chytundeb Ankara.[1]
Ffeithiau sydyn Enghraifft o'r canlynol, Dyddiad ...
Enghraifft o'r canlynol | cytundeb heddwch |
---|---|
Dyddiad | 24 Gorffennaf 1923 |
Iaith | Ffrangeg |
Lleoliad | Lausanne |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cau