Crëyr
teulu o adar / From Wikipedia, the free encyclopedia
Grŵp a theulu o adar dyfrol ydy'r Crehyrod (enw gwyddonol neu Ladin: Ardeidae).[1] Mae'r teulu hwn o adar o fewn yr urdd Pelecaniformes.[2][3]
Ffeithiau sydyn Dosbarthiad gwyddonol, Cyfystyron ...
Crehyrod Amrediad amseryddol: Paleosen-Presennol, 55–0 Miliwn o fl. CP | |
---|---|
Crëyr glas ym Mhorthmadog, Gwynedd; 2021. | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | Aves |
Is-ddosbarth: | Neornithes |
Inffradosbarth: | Neognathae |
Uwchurdd: | Neoaves |
Urdd: | Pelecaniformes |
Teulu: | Ardeidae Leach, 1820 |
Dosbarthiad y Crehyrod | |
Cyfystyron | |
Cochlearidae |
Cau
Mae coesau aelodau'r teulu hwn o adar yn fain ac yn hir iawn. Gallant fyw ar arfordiroedd morol neu lynnoedd a phyllau o ddŵr croyw. Ceir 64 rhywogaeth. Gallant hefyd ymddangos yn hynod o debyg i nifer o deuluoedd eraill e.e. y Ciconiad a'r Ibisiaid, y Llwybig a'r Garannod, ond tra'n hedfan, ceir cryn gwahaniaeth rhyngddynt gan fod eu gyddfau wedi'u tynnu yn ôl, a'r lleill yn syth ymlaen. Mae rhai rhywogaethau'n byw mewn coed ac eraill mewn corsydd o frwyn.
Rhestr Wicidata:
Rhagor o wybodaeth teulu, enw tacson ...
teulu | enw tacson | delwedd |
---|---|---|
Crëyr agami | Agamia agami | |
Crëyr capanog | Pilherodius pileatus | |
Crëyr chwibanog | Syrigma sibilatrix | |
Crëyr gylfinbraff | Cochlearius cochlearius | |
Crëyr pyllau India | Ardeola grayii | |
Crëyr pyllau Jafa | Ardeola speciosa | |
Crëyr rhesog cribwyn | Tigriornis leucolopha |
Cau
Diwedd y rhestr a gynhyrchwyd yn otomatig o Wicidata.