Christabel Pankhurst
etholfreintiwr, cyd-sylfaenydd Undeb Cymdeithasol a Gwleidyddol y Merched, golygydd (1880-1958) / From Wikipedia, the free encyclopedia
Ffeminist a swffragét o Loegr oedd Christabel Pankhurst (22 Medi 1880 - 13 Chwefror 1958) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel ymgyrchydd dros bleidlais i ferched y dosbarth canol ac uwch; roedd yn ferch i Emmeline Pankhurst. Roedd hefyd yn gyd-sefydlydd Undeb Sosialaidd a Gwleidyddol y Merched sef y Women's Social and Political Union (WSPU), a daliodd ati i ddanfon gorchymynion ac anogaeth i'r Undeb, hyd yn oed rhwng 1912 a 1913 pan oedd yn alltud yn Ffrainc. Yn wahanol i'w chwaer iau Adela Pankhurst, cefnogai'r rhyfel yn erbyn yr Almaen. Wedi'r rhyfel, aeth i Unol Daleithiau America, lle ymgyrchodd fel efengylydd yn y mudiad yr Ailatgyfodiad.[1][2][3][4][5][6]
Ffeithiau sydyn Ganwyd, Bu farw ...
Christabel Pankhurst | |
---|---|
Ganwyd | 22 Medi 1880 Manceinion |
Bu farw | 13 Chwefror 1958 Santa Monica |
Man preswyl | Paris, Canada, Califfornia, Côte d'Azur, Llundain, Manceinion |
Dinasyddiaeth | Lloegr |
Addysg | Bagloriaeth yn y Gyfraith |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | ymgyrchydd dros bleidlais i ferched, ymgyrchydd dros hawliau merched, pensaer, golygydd, ymgyrchydd, swffragét, ffeminist |
Plaid Wleidyddol | Y Blaid Lafur Annibynnol, y Blaid Geidwadol, Plaid y Merched |
Tad | Richard Pankhurst |
Mam | Emmeline Pankhurst |
Plant | Elizabeth Tudor |
Gwobr/au | Bonesig Cadlywydd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig |
Cau