COVID-19
haint sy'n effeithio'r ysgyfaint a achosir gan SARS coronafirws 2 / From Wikipedia, the free encyclopedia
Sylw!
Nid yw Wicipedia yn darparu cyngor meddygol nac iechyd. Gall yr erthygl hon gynnwys gwybodaeth hen ffasiwn neu anghywir. Dim ond gweithiwr iechyd proffesiynol sy'n gallu rhoi cyngor meddygol i chi, a dim ond awdurdodau iechyd eich gwlad sy'n gymwys i roi cyfarwyddiadau iechyd cyhoeddus yn ymwneud â phandemig y Gofid Mawr.
Clefyd heintus a ddaeth i'r amlwg yn Rhagfyr 2019 yw COVID-19 sy'n fyr am "coronavirus disease 2019"; bathiad Cymraeg - y Gofid Mawr[1]. Gellir olrhain yr achos cyntaf nôl i 17 Tachwedd 2019 yn Hubei.[2] Y firws sydd wrth wraidd yr haint yw'r SARS-CoV-2, ac wrth i'r clefyd yma ymledu drwy'r byd, esgorodd ar bandemig coronafeirws 2019–20. Erbyn 30 Mehefin 2020 roedd dros 1,500 wedi marw yng Nghymru, dros 43,500 drwy wledydd Prydain a thros 505,000 yn fyd-eang.[3][4].
Enghraifft o'r canlynol | clefyd heintus newydd, niwmonia annodweddiadol, dosbarth o glefyd |
---|---|
Math | niwmonia annodweddiadol, haint coronafirws, niwmonia firal, milhaint, Virus diseases of plants, niwmonia, clefyd |
Symptomau | Peswch, y dwymyn, methiant anadlu, cur pen, myalgia, blinder meddwl, hemoptysis, dolur rhydd, diffyg anadl, lymphopenia, anaemia, anosmia, ageusia, hypoxia, oerni, gorlenwi'r trwyn, anorecsia, cyfog, llid y cyfbilen, poen yn yr abdomen, niwmonia firal, niwed ir ymennydd, deliriwm, anhwylder seicotig, enseffalitis, enanthem, anallu |
Achos | Sars-cov-2 |
Dull trosglwyddo | Trosglwyddiad drwy'r aer, heintiad defnynnol, trosglwyddiad drwy gyffyrddiad, trosglwyddiad uniongyrchol, trosglwyddiad drwy chwydu, haint yn y llygad |
Dyddiad darganfod | Rhagfyr 2019 |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae'r erthygl hon yn cofnodi mater cyfoes. Gall y wybodaeth sydd ynddi newid o ddydd i ddydd. |
- Erthygl am yr haint a achoswyd gan SARS-CoV-2 yw hon.
- Am y firws penodol a achosodd yr epidemig, gweler SARS-CoV-2.
- Am y grŵp o erthyglau mae'r firws yn perthyn iddo, gweler: Coronafirysau
- Am y pandemig cyfoes, gweler yr erthygl Pandemig COVID-19.
Canfuwyd y clefyd yn gyntaf yn 2019 yn Wuhan, Tsieina, ac ers hynny mae wedi lledaenu’n fyd-eang, gan arwain at bandemig.
Mae symptomau cyffredin yn cynnwys twymyn (gorboethi, peswch ac anhawster anadlu, gyda phoen yn y cyhyrau, fflem ac fel arfer, dolur gwddf. Er bod mwyafrif yr achosion yn arwain at symptomau ysgafn, mewn rhai achosion ceir niwmonia difrifol ac organau'r corff yn methu.[5][6][7][8]
Mae cyfradd y marwolaethau allan o'r holl achosion a ddiagnosiwyd ar gyfartaledd yn 3.4%. Ceir cryn amrywiaeth, gyda 0.2% yn y rhai iau nag 20 oed, i oddeutu 15% yn y rhai dros 80 oed.[9][10] Fel arfer, mae'r haint yn cael ei ledaenu o un person i'r llall trwy ddefnynnau heintus yn cael eu hanadlu, ee drwy besychu neu disian. Mae'r amser rhwng dod i gysylltiad â symptomau a'r symptomau yn ymddangos, yn gyffredinol, rhwng dau a 14 diwrnod, gyda phum diwrnod ar gyfartaledd.[11][12]