C. J. Sansom
From Wikipedia, the free encyclopedia
Awdur nofelau trosedd hanesyddol o'r Alban oedd Christopher John Sansom (9 Rhagfyr 1952 – 27 Ebrill 2024). Roedd e'n fwyaf adnabyddus am ei gyfres Matthew Shardlake.
Ffeithiau sydyn Ganwyd, Bu farw ...
C. J. Sansom | |
---|---|
Ganwyd | Christopher John Sansom 9 Rhagfyr 1952 Caeredin |
Bu farw | 27 Ebrill 2024 Brighton |
Dinasyddiaeth | Yr Alban |
Alma mater | |
Galwedigaeth | ysgrifennwr, hanesydd, cyfreithegwr, nofelydd, cyfreithiwr |
Adnabyddus am | Shardlake series |
Gwobr/au | Sidewise Award for Alternate History, Cyllell Ddiamwnt Cartier, CWA Historical Dagger |
Cau
Cafodd Sansom ei eni yng Nghaeredin,[1] lle mynychodd Goleg George Watson, ond gadawodd yr ysgol heb unrhyw gymwysterau. Wedyn, ysgrifennodd Sansom am y bwlio a ddioddefodd yno. [2] Astudiodd ym Mhrifysgol Birmingham, lle y cymerodd BA ac yna PhD mewn Hanes. [3] Ar ôl gweithio mewn amrywiaeth o swyddi, daeth yn gyfreithiwr.[4] Bu’n ymarfer yn Sussex, cyn gadael y proffesiwn cyfreithiol i fod yn awdur llawn amser.
Yn 2012, cafodd ddiagnosis o myeloma lluosog. Bu farw yn 71 oed.[1][5]