Barriff Mawr
Rîff cwrel mwyaf yn y byd yn y Cefnfor Tawel / From Wikipedia, the free encyclopedia
Y Barriff Mawr,[1] hefyd Bariff Mawr (Saesneg: Great Barrier Reef) yw'r system riff cwrel mwyaf yn y byd, gyda 2,900 o riffiau unigol a 900 o ynysoedd. Mae gan Ardal Treftadaeth y Byd y Barriff Mawr, arwynebedd o dros 2,300 cilometr sgwâr (1,400 mi) o fewn ardal o tua 344,400 cilometr sgwâr (133,000 mi sgw)[2]. Saif yn y Môr Cwrel ar arfordir gogledd-ddwyreiniol Awstralia, i'r dwyrain o dalaith Queensland. Mae'n ymestyn o ynysoedd Lady Elliott ger arfordir de Queensland hyd Gwlff Papua, pellter o fwy na 2,000 km. Daw o fewn 30 km i'r arfordir ger Cairns, tra mae tua 250 km o'r arfordir ger Gladstone.
Llun lloeren o'r Barrif Mawr | |
Enghraifft o'r canlynol | rîff cwrel |
---|---|
Lleoliad | Townsville |
Enw brodorol | Great Barrier Reef |
Gwladwriaeth | Awstralia |
Rhanbarth | Queensland |
Gwefan | http://www.gbrmpa.gov.au/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae pobloedd Cynfrodorol Awstralia ac Ynysoedd y Torres Strait wedi bod yn gyfarwydd â'r Barriff Mawr ac yn ei ddefnyddio ers amser maith, ac mae'n rhan bwysig o ddiwylliant ac ysbrydolrwydd grwpiau lleol.
Gellir gweld y Barriff Mawr o'r gofod, a dyma strwythur sengl mwyaf y byd a wnaed gan organebau byw.[3] Crewyd strwythur y barriff hwn allan o biliynau o organebau bach, a elwir yn "polypau cwrel".[4] Mae'n fagwrfa i amrywiaeth eang o fywyd ac fe'i dewiswyd yn Safle Treftadaeth y Byd ym 1981.[5][6] Labelwyd y barriff gan CNN yn un o "Saith Rhyfeddod Naturiol y Byd" ym 1997.[7]
Y Barriff Mawr yw atyniad twristaidd mwyaf Awstralia, a threfnir teithiau o drefi megis Cairns a Townsville i'w weld. Dyma gyrchfan boblogaidd iawn i dwristiaid, yn enwedig yn rhanbarthau Ynysoedd Whitsunday a'r Cairns, gan gynhyrchu dros AUD $3 biliwn y flwyddyn.[8] Yn Nhachwedd 2014, lansiodd "Google Underwater Street View" mewn 3D o'r Barriff Mawr.[8][9]
Mae rhan fawr o'r barriff wedi'i gwarchod gan Barc Morol y Barriff Mawr, sy'n helpu i gyfyngu ar effaith defnydd dynol, fel pysgota a thwristiaeth. Mae pwysau amgylcheddol eraill ar y riff a'i ecosystem yn cynnwys dŵr ffo, newid hinsawdd ynghyd â channu (neu wynnu) torfol, dympio carthion ac achosion poblogaeth gylchol o sêr môr coron y drain (Acanthaster planci).[10] Yn ôl astudiaeth a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2012 gan Trafodion yr Academi Wyddorau Genedlaethol, mae'r Barriff Mawr wedi colli mwy na hanner ei cwrel ers 1985, canfyddiad a gadarnhawyd mewn astudiaeth yn 2020 a ganfu fod dros hanner gorchudd cwrel y barriff wedi marw rhwng 1995 a 2017.[11][12] Mae Deddf Parc Morol y Barriff Mawr 1975 (adran 54) yn mynnu cyhoeddi bob pum mlynedd Adroddiad Rhagolwg ar iechyd, pwysau a dyfodol y barriff.[13]
Dynododd UNESCO y Barriff Mawr yn Safle Treftadaeth y Byd yn 1981.