Baner Somaliland
baner tiriogaeth answyddogol / From Wikipedia, the free encyclopedia
Daeth baner Somaliland yn swyddogol ar 14 Hydref 1996. Mae'r faner yn dangos cynllun trilliw llorweddol gyda llinellau gwyrdd, gwyn a choch (o'r brig i'r gwaelod) gyda'r Shahada mewn gwyn ar y linell werdd a seren ddu bum pwynt yn y lôn wen.
Yn 1991, sefydlwyd llywodraeth ei hun yn Somalia ond nid yw annibyniaeth hunan-ddatganedig yr ardal yn cael ei chydnabod gan unrhyw wlad na sefydliad rhyngwladol.[1][2] Er, bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi cydnabod y wlad yn 2007, er, nad oes gan Gymru y gallu i ddarparu cydnabyddiaeth ryngwladol swyddogol.[3]