Baner Moldofa
From Wikipedia, the free encyclopedia
Baner drilliw gyda stribed chwith glas, stribed dde coch, a stribed canol melyn gydag arfbais Moldofa yn ei ganol yw baner Moldofa. Mae dyluniad y faner drilliw yn debyg iawn i faner Rwmania, sy'n adlewyrchu'r cysylltiadau diwylliannol a hanesyddol cryf sydd rhwng y ddwy wlad. Yn swyddogol ni ddylai arfbais ymddangos ar gefn baner Moldofa[1] (mae'n debyg i faneri Paragwâi a Sawdi Arabia yn yr achos nad yw cefn y faner yn unfath â'r blaen), ond weithiau defnyddir fersiynau o faner Moldofa gydag arfbais wrthdroëdig ar y cefn. Mabwysiadwyd ar 12 Mai, 1990.
- Dyluniad blaen baner Moldofa
- Dyluniad cefn baner Moldofa
- Enghraifft o faner Moldofa gydag arfbais wrthdroëdig ar y cefn
Ffeithiau sydyn Enghraifft o'r canlynol, Lliw/iau ...
Enghraifft o'r canlynol | baner cenedlaethol |
---|---|
Lliw/iau | glas, melyn, coch |
Dechrau/Sefydlu | 6 Tachwedd 1990 |
Genre | vertical triband |
Rhagflaenydd | flag of the Moldavian Soviet Socialist Republic |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cau