Baner Liberia
From Wikipedia, the free encyclopedia
Mabwysiadwyd baner genedlaethol Liberia ar 26 Gorffennaf 1847,[1] ac mae'n seiliedig ar faner yr Unol Daleithiau gan adlewyrchu sefydliad Liberia fel mamwlad i gaethweision Affricanaidd-Americanaidd rhydd. Mae'r canton glas yn cynrychioli Affrica, a'r seren wen ynddi'n symboleiddio rhyddid yn tywynnu o'r "Cyfandir Tywyll". Mae'r 11 o stribedi coch a gwyn yn cynrychioli llofnodwyr Datganiad Annibyniaeth Liberia. 10:19 yw cymhareb y faner hon.[1][2] Yn ôl cyfansoddiad y wlad mae glas yn dynodi rhyddid, cyfiawnder a ffyddlondeb, mae gwyn yn symbol o burdeb, glendid a didwylledd, ac mae coch yn cynrychioli dycnwch, dewrder a brwdfrydedd.[3]