Baner Eswatini
baner / From Wikipedia, the free encyclopedia
Mabwysiadwyd baner genedlaethol Eswatini ar 30 Hydref 1967.[1][2] Rhennir yn dri stribed llorweddol: dau stribed glas ar frig a gwaelod y faner, a stribed llydan coch yng nghanol y faner gydag ymyl melyn iddo.[3] Mae coch yn symboleiddio brwydrau'r gorffennol, melyn yn cynrychioli cyfoeth naturiol y wlad, a glas yn symboleiddio heddwch.[1] Yng nghanol y stribed coch mae tarian ddu a gwyn, sef tarian y Gatrawd Emasotha a ffurfiwyd yn y 1920au. Y tu ôl i'r darian mae dau asegai (gwaywffyn Affricanaidd) a ffon ymladd draddodiadol gyda thasel tinjobo a wneir o blu'r aderyn gweddw a'r loury ar naill ochr y ffon.[1] Mae tasel tinjobo hefyd ar y darian.[2] Mae'r darian, y gwaywffyn a'r ffon yn cynrychioli amddiffyn yn erbyn gelynion y wlad. Mae lliwiau'r darian yn symboleiddio heddwch rhwng duon a gwynion yng Nglwad Swasi.[3] 2:3 yw cymhareb y faner hon.[1][2]
Mae'r dyluniad yn seiliedig ar faner a gyflwynwyd i Gorfflu Arloeswyr y Swasi gan y Brenin Sobhuza II ym 1941.[2]