Avicii
From Wikipedia, the free encyclopedia
Troellwr, cerddor, a chynhyrchydd recordiau o Sweden oedd Tim Bergling a oedd yn fwy adnabyddus dan ei enw llwyfan Avicii (8 Medi 1989 – 20 Ebrill 2018).
Avicii | |
---|---|
Ffugenw | Avicii, Tim Berg, Tom Hangs, Jovicii, Timberman |
Ganwyd | Tim Lidén 8 Medi 1989 Stockholm |
Bu farw | 20 Ebrill 2018 Muscat |
Label recordio | Universal Music Group, Ministry of Sound, Capitol Records, Ultra Music, Big Beat Records, Geffen Records, EMI, Vicious Vinyl, Island Records |
Dinasyddiaeth | Sweden |
Alma mater | |
Galwedigaeth | cerddor, troellwr disgiau, remixer, cynhyrchydd recordiau, canwr |
Adnabyddus am | True, Stories, TIM |
Arddull | cerddoriaeth dawns electronig, cerddoriaeth house blaengar, electro house |
Prif ddylanwad | Swedish House Mafia, Daft Punk, Basshunter |
Tad | Klas Bergling |
Mam | Anki Lidén |
Partner | Emily Goldberg |
Gwobr/au | Gwobrau Cerdd America, Gwobr Gerdd Billboard, Gwobrau Cerddoriaeth MTV Europe, Gwobrau Teen Choice, Gwobrau Cerddoriaeth Byd, Q10680191, Musikexportpriset |
Gwefan | https://avicii.com |
llofnod | |
Cafodd Bergling ei roi yn drydydd ar restr DJ Mag yn 2012 and 2013[1][2] a cafodd ei enwebu ddwywaith am Gwobr Grammy, unwaith am ei waith ar "Sunshine" gyda David Guetta yn 2012[3] ac unwaith am ei gân "Levels" yn 2013. Rhai o'i ganeuon enwocaf yw "I Could Be the One" gyda Nicky Romero, "Wake Me Up", "You Make Me", "X You", "Hey Brother", "Addicted to You", "The Days", "The Nights", "Levels", "Waiting for Love", "Without You" a "Lonely Together". Rhyddhaodd ei albwm cyntaf, True, yn 2013. Yn gyffredinol derbyniodd adolygiadau cadarnhaol gan feirniad cerddorol, gan gyrraedd y deg uchaf mewn dros pymtheg o wledydd ac aeth i'r brig yn siartau Awstralia, Sweden, yr Iseldiroedd a'r UDA.[4][5][6][7] Yn 2015, rhyddhaodd Bergling ei ail albwm stiwdio, Stories.
Gwnaethpwyd fersiwn mewn Gwyddeleg o'i gân 'Wake Me Up' gan wersyll iaith Wyddeleg, 'Lurgan'. Mae'r fersiwn, Avicii Vs Lurgan - "Wake Me Up" as Gaeilge[8] sydd wedi derbyn dros 6 miliwn gwyliwr ers ei lwytho ar Youtube yn 2014.