Arfbais Gweriniaeth Canolbarth Affrica
From Wikipedia, the free encyclopedia
Tarian chwarterog a gynhelir gan ddwy faner genedlaethol yw arfbais Gweriniaeth Canolbarth Affrica. Darlunir ar y darian eliffant, coeden faobab, arwydd y blaid MESAN sef llaw yn pwyntio bys, a thri deimwnt. Yng nghanol y darian mae seren aur dros fap o Affrica, i symboleiddio lleoliad daearyddol y wlad yng nghanolbarth y cyfandir. Ar ben y darian mae codiad haul ac uwchben hynny sgrôl yn dwyn yr arwyddair Zo Kwe Zo. O dan y darian a'r baneri mae medal Urdd Teilyngdod Canolbarth Affrica a sgrôl yn dwyn yr arwyddair cenedlaethol: Unité, Dignité, Travail.[1]