Anthem genedlaethol Wcráin
Anthem genedlaethol Wcráin annibynnol. Geiriau gan Pavlo Chubynsky, cerddoriaeth gan Mykhailo Verbytsky / From Wikipedia, the free encyclopedia
Y gân Shche ne vmerla Ukrajiny (Wcreineg: Ще не вмерла України; "Nid yw Wcráin wedi marw eto", neu fersiwn lawnach: Ще не вмерла України і слава, і воля; "Nid yw Gogoniant a Rhyddid Wcráin wedi Marw Eto") yw anthem genedlaethol Wcráin. Fe'i canwyd fel anthem genedlaethol de facto adeg urddo'r Arlywydd cyntaf Leonid Kravchuk ar 5 Rhagfyr 1991, ond ni ddaeth cerdd Chubynsky yn swyddogol yn rhan o anthem genedlaethol Wcráin tan 6 Mawrth 2003 tan 6 Mawrth 2003. Dynododd Cyfansoddiad yr Wcrain gerddoriaeth Verbytsky ar gyfer yr anthem genedlaethol ar 28 Mehefin 1996.[1]