Alan Brown
From Wikipedia, the free encyclopedia
Gwleidydd o'r Alban yw Alan Brown (ganwyd 12 Awst 1970) a etholwyd yn Aelod Seneddol yn Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2015 dros Kilmarnock a Loudoun; mae'r etholaeth yn Nwyrain Swydd Ayr, Gogledd Swydd Ayr a De Swydd Ayr, yr Alban. Mae Alan Brown yn cynrychioli Plaid Genedlaethol yr Alban yn Nhŷ'r Cyffredin.
Ffeithiau sydyn Rhagflaenydd, Geni ...
Alan Brown | |
Cyfnod yn y swydd 7 Mai 2015 – Mai 2022 | |
Rhagflaenydd | Cathy Jamieson Y Blaid Lafur |
---|---|
Geni | (1970-08-12) 12 Awst 1970 (52 oed) Kilmarnock, Yr Alban |
Cenedligrwydd | Albanwr |
Etholaeth | Kilmarnock a Loudoun |
Plaid wleidyddol | Plaid Genedlaethol yr Alban |
Priod | Ydy |
Plant | Dau fab |
Alma mater | Prifysgol Glasgow |
Galwedigaeth | Gwleidydd Gweithiwr sifil Cynghorydd |
Gwefan | http://www.snp.org/ |
Cau
Fe'i ganed yn Kilmarnock, Dwyrain Swydd Ayr yn 1970. Graddiodd gydag Anrhydedd ym Mhrifysgol Glasgow - mewn peirianneg sifil. Yna gweithiodd yn y sector preifat a chyhoeddus.[1]
Yn ei oriau hamdden mae'n cefnogi Clwb pêl-droed Kilmarnock.
Fe'i etholwyd am y tro cyntaf fel cyngorydd sir etholaeth Dwyrain Swydd Ayr (ward Dyffryn Irvine) yn 2007, a hynny fel aelod o'r SNP. Fe'i ail-etholwyd yn 2012.