Alan Arkin
cyfarwyddwr ffilm, cynhyrchydd a sgriptiwr ffilm a aned yn Efrog Newydd yn 1934 / From Wikipedia, the free encyclopedia
Actor, cyfarwyddwr, cynhyrchydd a sgriptiwr Americanaidd oedd Alan Wolf Arkin (26 Mawrth 1934 – 29 Mehefin 2023).[1] Enillodd Gwobr yr Academi, Gwobr BAFTA, Gwobr Golden Globe a Gwobr Tony yn ystod ei yrfa. Roedd Arkin yn fwyaf adnabyddus am ei rôl fel Yossarian yn y ffilm Mike Nichols Catch-22.
Alan Arkin | |
---|---|
Ganwyd | Alan Wolf Arkin 26 Mawrth 1934 Brooklyn |
Bu farw | 29 Mehefin 2023 San Marcos |
Dinasyddiaeth | UDA |
Alma mater | |
Galwedigaeth | cyfarwyddwr ffilm, cerddor, ysgrifennwr, actor cymeriad, cyfarwyddwr teledu, sgriptiwr, canwr, actor llwyfan, actor ffilm, actor teledu, cyfarwyddwr theatr, awdur plant, cynhyrchydd ffilm, awdur ffuglen wyddonol, actor, cyfarwyddwr |
Tad | David I. Arkin |
Plant | Adam Arkin, Matthew Arkin |
Perthnasau | Joseph Wortis, Avi |
Gwobr/au | Gwobr yr Academi i'r Actor-gynorthwyydd Gorau, Gwobr Tony am yr Actor Gorau mewn Drama, Gwobr Golden Globe am Actor Gorau - Ffilm Sioe-gerdd neu Gomedi, Drama Desk Award for Outstanding Director, Drama Desk Award for Outstanding Director, Genie Award for Best Performance by a Foreign Actor, Genie Award for Best Supporting Actor, Gwobr BAFTA am Actor Gorau mewn Rhan Gynhaliol, Independent Spirit Award for Best Supporting Male, Gwobr Urdd Actorion Sgrin ar gyfer Perfformiad Eithriadol gan Cast mewn Ffilm Nodwedd, Gwobr Urdd Actorion Sgrin ar gyfer Perfformiad Eithriadol gan Cast mewn Ffilm Nodwedd, Gwobr y 'Theatre World', Gwobr y Glob Aur am yr Actor Cefnogol Gorau - ar ffim, seren ar Rodfa Enwogion Hollywood |
Cafodd Arkin ei eni yn Brooklyn, Efrog Newydd, yn fab i David I. Arkin, peintiwr ac awdur, a'i wraig, yr athrawes Beatrice (g. Wortis).[2] [3] Cafodd ei fagu mewn teulu Iddewig.[4] Symudodd y teulu i Los Angeles pan oedd Alan yn 11 oed. [5] Yn ystod y 1950au, cyhuddwyd rhieni Arkin o fod yn Gomiwnyddion, a chafodd ei dad ei ddiswyddo. [6]
Ym 1968, bu’n serennu fel yr Arolygydd Jacques Clouseau yn nhrydydd rhandaliad masnachfraint The Pink Panther, o’r enw Inspector Clouseau. Yr un flwyddyn, derbyniodd enwebiadau ar gyfer Gwobr yr Academi am yr Actor Gorau, a Gwobr Golden Globe am yr Actor Gorau - Drama Motion Picture am ei rôl yn The Heart Is a Lonely Hunter.[7] [8]
Bu Arkin yn briod deirgwaith. Roedd ganddo ef a Jeremy Yaffe (p. 1955-1961) ddau fab: yr actorion Adam Arkin (g. 1956) a Matthew Arkin (g. 1960). Priododd Barbara Dana ym 1964; ymddangosodd Dana gydag ef mewn rhannau o Sesame Street yn y 1970au. Ym 1967, bu iddynt fab, Anthony (Tony) Dana Arkin.[9] Ym 1996, ar ol ei ysgariad priododd Arkin y seicotherapydd Suzanne Newlander. [10]
Bu farw Arkin yn ei gartref yn San Marcos, California, yn 89 oed.[11]