![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/7/71/Cairo_skyline%252C_Panoramic_view%252C_Egypt.jpg/640px-Cairo_skyline%252C_Panoramic_view%252C_Egypt.jpg&w=640&q=50)
Afon Nîl
From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae Afon Nîl (neu Afon Neil, Arabeg: النيل an-nīl), yn afon yn Affrica sy'n un o'r ddwy afon hwyaf yn y byd. Mae dadl yn parhau ai hi ynteu Afon Amazonas yw'r hwyaf. Mae tua 6,650 km (4,132 milltir) o hyd.[1][2] Mae ei basn draenio'n cynnwys un ar ddeg o wledydd: Tansanïa, Wganda, Rwanda, Bwrwndi, Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo, Cenia, Ethiopia, Eritrea, De Swdan, Swdan, a'r Aifft.[3] Y Nîl yw prif ffynhonnell ddŵr yr Aifft a Swdan.[4]
![]() | |
Math | afon ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Swdan, Yr Aifft, Wganda, De Swdan, Tansanïa, Eritrea, Cenia, Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo ![]() |
Uwch y môr | 2,700 metr, 0 metr ![]() |
Cyfesurynnau | 15.64014°N 32.5055°E, 31.4653°N 30.3667°E ![]() |
Tarddiad | Afon Nîl Wen, Afon Nîl Las ![]() |
Aber | Y Môr Canoldir ![]() |
Llednentydd | Afon Atbarah, Wadi Hammamat ![]() |
Dalgylch | 3,400,000 cilometr sgwâr ![]() |
Hyd | 6,650 cilometr ![]() |
Arllwysiad | 2,830 ±1 metr ciwbic yr eiliad ![]() |
![]() | |
Mae'r enw yn deillio o'r enw a roddodd y Groegiaid iddi, sef Neilos (Νειλος).
Mae Afon Nîl yn cychwyn fel dwy afon, y Nîl Las a'r Nîl Wen, sy'n ymuno â'i gilydd i greu'r brif afon. Mae hyd afon yn amrywio am sawl rheswm, gan gynnwys union leoliad y ffynhonnell a'r aber.[5]
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/a/ac/Nile_composite_NASA.jpg/320px-Nile_composite_NASA.jpg)
Mae gan yr afon ddwy lednant mawr: y Nîl Las a'r Nîl Wen.