Afon Nîl
From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae Afon Nîl (neu Afon Neil, Arabeg: النيل an-nīl), yn afon yn Affrica sy'n un o'r ddwy afon hwyaf yn y byd. Mae dadl yn parhau ai hi ynteu Afon Amazonas yw'r hwyaf. Mae tua 6,650 km (4,132 milltir) o hyd.[1][2] Mae ei basn draenio'n cynnwys un ar ddeg o wledydd: Tansanïa, Wganda, Rwanda, Bwrwndi, Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo, Cenia, Ethiopia, Eritrea, De Swdan, Swdan, a'r Aifft.[3] Y Nîl yw prif ffynhonnell ddŵr yr Aifft a Swdan.[4]
Math | afon |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Swdan, Yr Aifft, Wganda, De Swdan, Tansanïa, Eritrea, Cenia, Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo |
Uwch y môr | 2,700 metr, 0 metr |
Cyfesurynnau | 15.64014°N 32.5055°E, 31.4653°N 30.3667°E |
Tarddiad | Afon Nîl Wen, Afon Nîl Las |
Aber | Y Môr Canoldir |
Llednentydd | Afon Atbarah, Wadi Hammamat |
Dalgylch | 3,400,000 cilometr sgwâr |
Hyd | 6,650 cilometr |
Arllwysiad | 2,830 ±1 metr ciwbic yr eiliad |
Mae'r enw yn deillio o'r enw a roddodd y Groegiaid iddi, sef Neilos (Νειλος).
Mae Afon Nîl yn cychwyn fel dwy afon, y Nîl Las a'r Nîl Wen, sy'n ymuno â'i gilydd i greu'r brif afon. Mae hyd afon yn amrywio am sawl rheswm, gan gynnwys union leoliad y ffynhonnell a'r aber.[5]
Mae gan yr afon ddwy lednant mawr: y Nîl Las a'r Nîl Wen.