Afanc
From Wikipedia, the free encyclopedia
Cnofil mawr lled-ddyfrol cynffonlydan o'r genws Castor gyda blaenddannedd ffurf cŷn sy'n byw ger afonydd yw afanc. Ceir dwy rywogaeth o afanc heddiw: yr afanc Ewropeaidd (Castor fiber) a'r afanc Americanaidd (Castor canadensis). Maent yn aml yn cnoi coed i lawr ac yn adeiladu camlesi ac argaeau ohonynt i ffurfio pyllau cronedig lle maent yn adeiladu gwalau ynysol, sych a chromennog gyda mynedfeydd tanddwr.
Delwedd:Bäver närbild.jpg, American Beaver.jpg, 00 1197 Durch Biber gefällter Baum.jpg | |
Enghraifft o'r canlynol | tacson, Llysysydd |
---|---|
Safle tacson | genws |
Rhiant dacson | Castoridae |
Dechreuwyd | Mileniwm 25. CC |
Yn cynnwys | Cynffon |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Afanc | |
---|---|
Afanc Ewropeaidd | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | Mammalia |
Urdd: | Rodentia |
Teulu: | Castoridae |
Genws: | Castor Linnaeus, 1758 |
Rhywogaethau | |
C. canadensis |
Enw gwyddonol yr afanc Ewropeaidd yw Castor fiber. Ei hen enw oedd ‘llostlydan’ ac yng Nghyfraith Hywel rhoid gwerth uchel i'w groen - 120 ceiniog o'i gymharu â 24 ceiniog am groen bele goed, blaidd a llwynog - oedd efallai yn dynodi ei brinder. Dywed Gerallt Gymro yn 1188 mai Afon Teifi oedd ei gynefin olaf ym Mhrydain. Tebyg iddo ddarfod yng Nghymru yn y 13g. Yr Afanc oedd enw'r anghenfil dŵr chwedlonol dynnwyd o Lyn yr Afanc yn Afon Lledr, Betws-y-coed gan yr Ychain Banog a'i lusgo hyd at Lyn y Ffynnon Las.