Gerallt Gymro
archddiacon Brycheiniog a llenor yn yr iaith Ladin / From Wikipedia, the free encyclopedia
Roedd Gerallt Gymro (neu Giraldus Cambrensis yn Lladin) (c.1146 – c.1223) yn eglwyswr a hanesydd canoloesol Cymreig. Ei enw bedydd oedd Gerald de Barri (Ffrangeg Normanaidd). Roedd yn ysgolhaig a chwaraeodd ran bwysig yng ngwleidyddiaeth eglwysig ei ddydd. Roedd o dras gymysg, hanner Cymreig, hanner Normanaidd ac mae hyn yn elfen amlwg yn ei agwedd a'i yrfa. Fe'i gwerthfawrogir yn bennaf heddiw am ei ddau lyfr arbennig am Gymru sy'n rhoi golwg unigryw ar fywyd y wlad ar ddiwedd y 12g.
Ffeithiau sydyn Ganwyd, Bu farw ...
Gerallt Gymro | |
---|---|
Cerflun o Gerallt yn Eglwys Gadeiriol Tyddewi | |
Ganwyd | c. 1146 Castell Maenorbŷr |
Bu farw | 1220s Henffordd |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | mapiwr, hanesydd, ysgrifennwr, gweinidog yr Efengyl, gwleidydd, offeiriad Catholig |
Swydd | caplan |
Adnabyddus am | Topographia Hibernica |
Tad | William de Barri |
Mam | Angharad ferch Nest |
Cau