Addoldai Cymraeg Caerdydd
From Wikipedia, the free encyclopedia
Dyma restr anghyflawn o addoldai Cymraeg yng Nghaerdydd.
Rhagor o wybodaeth Llun, Enw ...
Llun | Enw | Ardal | Agor | Cau | Enwad | Manylion pellach |
---|---|---|---|---|---|---|
Bethlehem | Eyre Street, Y Sblot | 1895 | 1908 | Annibynwyr | Merch eglwys i Ebeneser (gw. isod). Fe'i corfforwyd yn 1896.[1] | |
Bethlehem (yr un eglwys ag uchod) | Eyre Street, Y Sblot | 1908 | ? | Annibynwyr | Penseiri: Habershon & Faulkner, Caerdydd.[2] | |
Beulah | Rhiwbeina | 1851 | 1891 | Annibynwyr | Corfforwyd yr eglwys yn 1849.[3] | |
Beulah (yr un eglwys ag uchod) | Rhiwbeina | 1891 | — | Annibynwyr | Saif y capel newydd gyferbyn â'r un blaenorol. Wedi cyfnod o weithredu'n ddwyieithog, troes i'r Saesneg yn 1898.[3] | |
Ebeneser | Paradise Place, canol y ddinas | 1828 | 1978 | Annibynwyr | Corfforwyd yr eglwys yn 1826; y sillafiad Ebenezer a ddefnyddid yn wreiddiol. Mae'r adeilad wedi ei ddymchwel, ond mae plac yn nodi'r safle yng Nghanolfan Siopa Dewi Sant.[4] Symudodd yr eglwys i hen gapel yr Annibynwyr Saesneg ar Charles Street yn 1978 (gw. isod). Mae dwy gyfrol o hanes yr eglwys wedi eu cyhoeddi.[5] | |
Ebeneser (yr un eglwys ag uchod) | Charles Street, canol y ddinas | 1978 | 2012 | Annibynwyr | Mae'r eglwys bellach yn cwrdd yng Nghanolfan yr Eglwys Newydd ac yn City Church, Windsor Place. | |
Minny Street | Cathays | 1887 | — | Annibynwyr | Merch eglwys i Ebeneser (gw. uchod). Corfforwyd yr eglwys ar 18 Chwefror 1885. Codasid ysgoldy eisoes yn 1884 (sef festri'r capel presennol). Mae tair cyfrol o hanes yr eglwys wedi eu cyhoeddi.[6] | |
Mount Stuart | Sgwâr Mount Stuart, Tre-biwt | 1858 | 1912 | Annibynwyr | Merch eglwys i Ebeneser (gw. uchod). Ymadawyd â Sgwâr Mount Stuart yn 1912. Dymchwelwyd y capel er mwyn codi'r Phoenix Buildings presennol. | |
Mount Stuart (yr un eglwys ag uchod) | Pomeroy Street, Tre-biwt | 1912 | rhywdro cyn 1956 | Annibynwyr | Penseiri: James & Morgan, Caerdydd. Er symud i Pomeroy Street, daliwyd i ddefnyddio'r enw 'Mount Stuart' am yr achos.[7] Erbyn 1955 roedd y capel yn gartref i un o achosion y Bedyddwyr Saesneg (Bethel).[8] Caeodd yr achos hwnnw yn 2000 a dymchwelwyd y capel tua 2012. | |
Severn Road | Glan'rafon | 1868 | 1979 | Annibynwyr | Corfforwyd yn 1867 yn ferch eglwys i Ebeneser (gw. uchod). Archif ar gael yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Mae'r capel bellach yn fosg. | |
Ainon | Walker Road, Y Sblot | 1896 | 1975 | Bedyddwyr | Corfforwyd yn 1894 yn ferch eglwys i Salem, Adamsdown. Cyflwynwyd gwasnaethau Saesneg yn 1911 ac erbyn 1929 roedd y cyfan yn Saesneg. Ymadawodd ag Undeb Bedyddwyr Cymru yn 1926 er mwyn ymuno â'r Baptist Union of Great Britain. Archif[dolen marw] yn Archifdy Morgannwg. Cyhoeddwyd cyfrol o'i hanes.[9] Dymchwelwyd y capel oddeutu 1977.[10] | |
Llandaff Road | Treganna | 1853 | ? | Bedyddwyr | Merch eglwys i'r Tabernacl (gw. isod). Troes yr iaith i'r Saesneg ar ddiwedd y 19g. Mae'r capel bellach yn gartref i'r Cardiff Chinese Christian Church. | |
Salem | Moira Terrace, Adamsdown | 1860 | 1972 | Bedyddwyr | Merch eglwys i'r Tabernacl (gw. isod). Adeiladwyd gan John Jones, Newtown. Pensaer: Thomas Davies. Gwerthwyd y capel i'r Church of Christ yn 1972. Cyhoeddwyd cyfrol o'i hanes hyd at 1911.[11] | |
Siloam | Sgwâr Mount Stuart, Tre-biwt | 1858 | 1901 | Bedyddwyr | Merch eglwys i'r Tabernacl (gw. isod). Ymadawyd â chapel Sgwâr Mount Stuart ar 29 Medi 1901 ac yn fuan wedyn dymchwelwyd yr adeilad i godi'r Phoenix Buildings presennol. Symudwyd i'r capel newydd y flwyddyn ganlynol.[12] | |
Siloam (yr un eglwys ag uchod) | Corporation Road, Grangetown | 1902 | 1950au | Bedyddwyr | Pensaer: G. L. Walkins. Gwerthwyd y capel yn ystod y 1950au i Fyddin yr Iachadwriaeth (sydd yno hyd heddiw). Roedd y gwasanaethau Cymraeg wedi dod i ben beth amser cyn hynny. | |
Tabernacl | Yr Aes, canol y ddinas | 1821 | — | Bedyddwyr | Archif[dolen marw] rannol yn Archifdy Morgannwg. Cyhoeddwyd dwy gyfrol o hanes yr eglwys.[13] | |
Eglwys y Galon Sanctaidd | Broad Street, Treganna | ? | ? | Yr Eglwys Gatholig | Dymchwelwyd yr eglwys yn Hydref 2015. | |
Eglwys Sant Philip Evans | Rhodfa Llanedern, Llanedern | ? | — | Yr Eglwys Gatholig | Yma y dethlir yr offeren Gymraeg ar hyn o bryd (Chwefror 2015).[14] | |
Eglwys yr Holl Saint | Stryd Tyndall, Tre-biwt | 1856 | 1899 | Eglwys Loegr | Pensaer: Alexander Roos. Cafwyd y gwasanaeth Cymraeg olaf yn 1875.[15] | |
Eglwys Dewi Sant | Gerddi Howard, Adamsdown | 1889 | 1941 | Eglwys Loegr, yna'r Eglwys yng Nghymru | Pensaer: E. M. Bruce Vaughan. Dinistriwyd yr eglwys hon mewn cyrch awyr ym mis Mawrth 1941.[16] | |
Eglwys Dewi Sant | Cilgant Sant Andreas, Cathays | 1956 | — | Yr Eglwys yng Nghymru | Hen eglwys Saesneg Sant Andreas, a gysegrwyd yn gyntaf yn 1863. Cynhaliwyd rhai gwasnaethau Cymraeg yno ar ddiwedd y 1880au.[17] | |
Bethania | Sgwâr Loudoun, Tre-biwt | 1856 | 1937 | Methodistiaid Calfinaidd | Pan gaeodd y capel symudodd yr aelodau i gapel Pembroke Terrace (gw. isod).[18] Dymchwelwyd y capel ar ddechrau'r 1960au.[19] | |
Eglwys y Crwys | Richmond Road, Plasnewydd | 1988 | — | Methodistiaid Calfinaidd | Parhad o achos Heol y Crwys (gw. isod). Roedd y capel yn wreiddiol yn berchen i'r Gwyddonwyr Cristnogol. Mae cyfrol o hanes yr achos wedi ei chyhoeddi.[20] (Gw. hefyd ar Heol y Crwys isod.) | |
Gilgal | Chapel Street, Llandaf | 1859 | ? | Methodistiaid Calfinaidd | Merch eglwys i Ebenezer, yr Eglwys Newydd (gw. uchod).[21] Mae'r adeilad bellach yn neuadd gymunedol. | |
Heol y Crwys | Cathays | 1900 | 1988 | Methodistiaid Calfinaidd | Parhad o achos Horeb (gw. isod). Pensaer: J. H. Phillips. Mae'r adeilad bellach yn fosg. Mae cyfrol o hanes yr achos wedi ei chyhoeddi.[22] (Gw. hefyd ar Eglwys y Crwys uchod.) | |
Horeb | May Street, Cathays | 1884 | 1900 | Methodistiaid Calfinaidd | Merch eglwys i Pembroke Terrace (gw. isod). Parhaodd yr achos yn Heol y Crwys (gw. uchod). Mae'r adeilad bellach yn eiddo i Fyddin yr Iachawdwriaeth. | |
Jerusalem | Manon Street/Walker Road, Y Sblot | 1892 | ? | Methodistiaid Calfinaidd | Merch eglwys i Pembroke Terrace (gw. isod).[23] Pan gaeodd yr achos symudodd yr aelodau i Eglwys y Crwys (gw. uchod). Chwalwyd yr adeilad yn 1987.[24] | |
Pembroke Terrace | Churchill Way, canol y ddinas | 1878 | 1975 | Methodistiaid Calfinaidd | Pensaer: Henry C. Harris. Parhad o achos Seion. Pan gaeodd capel Pembroke Terrace symudodd yr aelodau i achos Heol y Crwys. Mae'r capel bellach yn dŷ bwyta. | |
Salem | Edward Street, Treganna | 1856 | 1903 | Methodistiaid Calfinaidd | Adnewyddwyd yn 1868. | |
Salem (yr un eglwys ag uchod) | Market Street, Treganna | 1903 | Methodistiaid Calfinaidd | Mae'r capel yn dal ar agor. | ||
Tabernacl | Heol Merthyr, yr Eglwys Newydd | 1866 | — | Methodistiaid Calfinaidd | Wedi cyfnod o gynnal gwasanaethau dwyieithog yn y 1880au a'r 1890au, troes yr iaith yn gyfan gwbl i'r Saesneg yn 1896, er i'r achos yn weinyddol barhau'n rhan o'r Cylch Misol Cymraeg hyd at 1899.[25] Datgorfforwyd yr achos yn swyddogol ym mis Gorffennaf 2023. Symudodd Eglwys Efengylaidd Gymraeg Caerdydd ei chyfarfodydd yno o’i hadeilad blaenorol yn Cathays yn 2021. | |
Tabernacl | Crofft y Genau, Sain Ffagan | 1837 | — | Methodistiaid Calfinaidd | Adnewyddwyd yn 1900. Newidiodd yr iaith i'r Saesneg rywdro cyn 1903.[26] | |
Bethel | Union Street | 1978 | Methodistiaid Wesleaidd | |||
Bethel (yr un achos ag uchod) | Rhiwbeina | Methodistiaid Wesleaidd | Parhad o'r achos uchod. | |||
Gilead | Tredelerch | c. 1814 | 1929 | Methodistiaid Wesleaidd | Roedd yr iaith wedi troi i'r Saesneg erbyn 1900.[27] Symudodd yr achos Saesneg i adeilad newydd yn 1929. Mae cyfrol o'i hanes wedi ei chyhoeddi.[28] | |
Llandaf | Cardiff Road, Llandaf | ? | Methodistiaid Wesleaidd | Trosglwyddwyd yr achos i'r gylchdaith Saesneg erbyn 1891.[29] | ||
Eglwys West Grove | Plasnewydd | 1954 | 2005 | Undodiaid | Cafwyd y gwasanaethau Cymraeg cyntaf yn 1954.[30] Gwerthwyd Eglwys West Grove (a agorwyd gyntaf yn 1887) yn 2005.[31] | |
Tŷ Cwrdd y Crynwyr | Charles Street, canol y ddinas | 2005 | — | Undodiaid | Parhad o achos Eglwys West Grove (gw. uchod). |
Cau