Achos llys y Verein KlimaSeniorinnen Schweiz yn erbyn y Bundesrat
From Wikipedia, the free encyclopedia
Achos llys yn erbyn Llywodraeth y Swistir (sef y Bundesrat), a hynny gan griw o ferched yw'r hyn a elwir yn Verein KlimaSeniorinnen Schweiz yn erbyn Bundesrat.
Y Bundeshaus, Bern, lle mae'r Bundesrat yn cyfarfod | |
Enghraifft o'r canlynol | judgment, achos gyfreithiol |
---|---|
Math | climate justice in Switzerland |
Dyddiad cyhoeddi | 9 Ebrill 2024 |
Gwladwriaeth | Y Swistir |
Y Bundesrat yw'r cyngor gweithredol saith-aelod sy'n ffurfio llywodraeth ffederal Cydffederasiwn y Swistir ac sy'n gwasanaethu fel pen y wladwriaeth a llywodraeth gyfunol y Swistir. Mae'n cwrdd yn adain orllewinol y Bundeshaus yn Bern. Mae'r Verein KlimaSeniorinnen yn undeb o ferched dros 75 oed. Nododd deiseb y menywod hyn fod eu grŵp demograffig yn arbennig o fregus mewn gwres uchel, yn dilyn newid hinsawdd.
Dywed gwefan y menywod, sef y 'KlimaSeniorinnen:[1]
“ |
Mae newid hinsawdd eisoes yn cynhyrchu difrod helaeth. Bydd tonnau gwres uchel a bygythiol, tirlithriadau a llifogydd yn dod yn norm oni bai ein bod yn gweithredu ar unwaith. Er gwaethaf prawf gwyddonol, nid yw'r Swistir ynghyd â'r mwyafrif o wledydd eraill yn gwneud llawer i osgoi trychinebau o'r fath. Oherwydd bod llywodraethau, trwy eu diffyg gweithredu, yn torri hawliau sylfaenol, mae mwy a mwy o bobl ledled y byd yn mynd â nhw i'r llys. Mae'r hyn sydd yn y fantol yn ddyfodol byw - heb gwymp yn yr hinsawdd. |
” |